Mae papurau dydd Mawrth (3 Tachwedd) yn adrodd bod Ryan Giggs wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ei gariad, Kate Greville.

Galwyd yr heddlu i’w eiddo yn Worsley, Manceinion, am 10.05pm nos Sul yn sgil adroddiadau o aflonyddwch, yn ôl y Sun, y papur cyntaf i adrodd y newyddion.

Holwyd hyfforddwr Cymru, sy’n 46 oed, gan yr heddlu ar amheuaeth o ymosod ac achosi gwir niwed corfforol (ABH), meddai’r adroddiadau.

“Cafodd menyw yn ei thridegau fân anafiadau ond nid oedd angen unrhyw driniaeth,” meddai llefarydd o heddlu Manceinion Fwyaf.

“Cafodd dyn 46 oed ei arestio ar amheuaeth o ymosodiad adran 47 ac ymosodiad cyffredin adran 39.”

Ers hynny mae Giggs wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth o orsaf heddlu Pendleton brynhawn Llun.

Mae cynhadledd i’r wasg oedd i’w chynnal i gyhoeddi carfan Cymru ar gyfer gemau Cynghrair y Cenhedloedd wedi’i gohirio.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymwybodol o ddigwyddiad honedig sy’n ymwneud â rheolwr tîm cenedlaethol y dynion, Ryan Giggs.

“Ni fydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwneud unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd,” meddai datganiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.