Mae Le Parisien yn adrodd ei bod yn bosib na fydd Ewro 2020, sydd bellach i’w gynnal yn haf 2021, yn digwydd mewn 12 gwlad wahanol fel y rhagwelwyd yn flaenorol gan gyn-lywydd UEFA, Michel Platini.

Y cynllun eleni oedd i gemau ddigwydd mewn 12 dinas ledled Ewrop – gyda gemau Cymru yn Baku a Rhufain – ond mae’r pandemig wedi distrywio’r cynlluniau hynny ac, yn ôl Le Parisien, mae UEFA bellach yn barod i newid yn ôl i gynnal y twrnament mewn un wlad yr haf nesaf.

Rwsia yw’r dewis cyntaf, meddai Le Parisien, a hynny gan fod gan y wlad seilwaith diweddar ar ôl cynnal Cwpan y Byd yn llwyddiannus yn 2018.

Rheswm arall a nodir gan y papur Ffrengig yw fod gan Rwsia gyfradd heintio Covid-19 isel – er bod arbenigwyr iechyd yn cwestiynu ffigurau swyddogol y Kremlin.

Roedd awgrym fod penaethiaid UEFA yn ystyried o ddifri gynnal y twrnament i gyd yn Azerbaijan ar un adeg – ond fod yr opsiwn honno wedi ei diystyru yn yr wythnosau diwethaf oherwydd y gwrthdaro milwrol parhaus ag Armenia.

Nid oedd UEFA yn fodlon cadarnhau dim wrth Le Parisien, fodd bynnag; awgrymodd ffynhonnell y byddai UEFA yn cymryd ei amser i benderfynu ar drefn derfynol y twrnament.

Yn benodol, credir bod y corff llywodraethu’n aros i ddarganfod y rheolau iechyd sydd mewn grym ym mhob gwlad o ran derbyn cefnogwyr.