Fe wnaeth y Zebre guro’r Gweilch o 23-17 yn y PRO14 neithiwr (nos Lun, Tachwedd 2) wrth iddyn nhw gipio’u buddugoliaeth gynta’r tymor hwn.

Y maswr Antonio Rizzi oedd seren yr Eidalwyr, wrth iddo fe sgorio cais, tair cic gosb a dau drosiad.

Daeth y cais cyntaf gan Renato Giammarioli.

Tarodd y Gweilch yn ôl gyda cheisiau gan Gareth Thomas ac Olly Cracknell, wrth i Josh Thomas gicio dau drosiad a chic gosb.

Mae’r Zebre yn aros ar waelod Cyngres A, un pwynt y tu ôl i’r Dreigiau, tra bo’r Gweilch yn aros yn y trydydd safle.