Fydd Ryan Giggs ddim wrth y llyw ar gyfer gemau nesaf tîm pêl-droed Cymru ar ôl iddo fe gael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac achosi gwir niwed corfforol.
Bydd Robert Page yn arwain y tîm yn ei absenoldeb ar gyfer y gemau yn erbyn yr Unol Daleithiau (Tachwedd 12), Gweriniaeth Iwerddon (Tachwedd 15) a’r Ffindir (Tachwedd 18).
Bydd Albert Stuivenberg yn ei gynorthwyo.
Roedd disgwyl i’r garfan gael ei chyhoeddi fore heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 3), ond mae’r cyhoeddiad hwnnw wedi’i ohirio tan ddydd Iau (Tachwedd 5).
Datganiad
“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Ryan Giggs wedi cytuno na fydd rheolwr y tîm cenedlaethol yn chwarae rhan yn y gemau ym mis Tachwedd,” meddai’r Gymdeithas Bêl-droed mewn datganiad.
“Ein blaenoriaieth nawr yw paratoi’r tîm ar gyfer y gemau rhyngwladol.
“Bydd Robert Page, gyda chefnogaeth Ryan, yn arwain y garfan ar gyfer y tair gêm nesaf yn erbyn yr UDA, Gweriniaeth Iwerddon a’r Ffindir, wed’i gefnogi gan Albert Stuivenberg.
“Bydd carfan Cymru ar gyfer y gemau hyn yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 5ed o Dachwedd.
“Ni fydd CBDC yn gwneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd.”