Mae’r Unol Daleithiau wedi enwi eu carfan o 24 chwaraewr i herio tîm pêl-droed Cymru mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Liberty nos Iau nesaf (Tachwedd 12).

Yn eu plith mae chwech o chwaraewyr sy’n chwarae yng nghynghreiriau Lloegr.

Y chwech yw Christian Pulisic (Chelsea), Antonee Robinson a Tim Ream (Fulham), Chituru Odunze (Leicester City), Zack Steffen (Manchester City) ac Owen Otasowie (Wolves).

Mae deg chwaraewr heb gap yn y garfan, gan gynnwys Giovanni Reyna (Borussia Dortmund) a Chris Richards (Bayern Munich).

Y garfan: E Horvath (Club Brugge), C Odunze (Leicester City), Z Steffen (Manchester City), J Brooks (Wolfsburg), R Cannon (Boavista), S Dest (Barcelona), M Miazga (Anderlecht), T Ream (Fulham), C Richards (Bayern Munich), A Robinson (Fulham), T Adams (RB Leipzig), J Cardoso (Internacional), R Ledezma (PSV Eindhoven), W McKennie (Juventus), Y Musah (Valencia), O Otasowie (Wolves), K De La Fuente (Barcelona), N Gioacchini (Caen), C Pulisic (Chelsea), U Llanez (Heerenveen), G Reyna (Borussia Dortmund), J Sargent (Werder Bremen), S Soto (Telstar), T Weah (Lille).