Mae timau pêl-droed Cymru yng Nghynghrair Lloegr wedi cael canlyniadau cymysg yn eu gemau heno (nos Fawrth, Tachwedd 3).

Roedd Caerdydd yn fuddugol o 3-0 gartref yn erbyn Barnsley, cipiodd Abertawe bwynt yn Brentford gan orffen yn gyfartal 1-1, ond colli o 3-2 yng Nghaerliwelydd wnaeth Casnewydd.

Caerdydd 3-0 Barnsley

Enillodd yr Adar Gleision gartref am y tro cyntaf y tymor hwn, diolch i goliau Junior Hoilett, Joe Ralls o’r smotyn a Harry Wilson.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Neil Harris bedwar pwynt islaw’r safleoedd ail gyfle.

Eu gwrthwynebwyr nesaf fydd Bristol City yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener (Tachwedd 6).

Brentford 1-1 Abertawe

Bydd yr Elyrch yn ddigon bodlon â phwynt oddi cartref yn Brentford, ond fe allen nhw fod wedi cipio’r triphwynt gyda chic ola’r gêm.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wrth i rediad Bryan Mbeumo greu cyfle i Mathias Jensen, a hwnnw’n croesi i lwybr Ivan Toney i rwydo’i ddegfed gôl y tymor hwn.

Roedd yr Elyrch yn gyfartal 13 munud cyn y diwedd, wrth i Andre Ayew rwydo oddi ar groesiad yr eilydd Matt Grimes.

Ond roedd Ayew yn camsefyll pan rwydodd e oddi ar gic ola’r gêm a fyddai wedi cipio’r triphwynt i dîm Steve Cooper.

Caerliwelydd 3-2 Casnewydd

Brwydrodd tîm Mike Flynn yn galed ond yn ofer yn Brunton Park, wrth i’w rhediad di-guro o bum gêm ddod i ben.

Sgoriodd Jon Mellish ddwy gôl i’r Saeson gyda Lewis Alessandra hefyd yn sgorio o’r smotyn i roi’r tîm cartref ar y blaen.

Ond roedd yr Alltudion yn benderfynol o geisio gorffen yn gryf, ac fe rwydodd Jamie Devitt a Josh Sheehan yn wyth munud ola’r gêm, ond wnaethon nhw fethu â darganfod y rhwyd am y trydydd tro i gipio pwynt haeddiannol.