Mae Clwb Pêl-droed Abertawe yn aros i glywed pa mor ddifrifol yw’r anaf i Ben Cabango, ar ôl iddo dynnu’n ôl o’r gêm yn Brentford yn y Bencampwriaeth neithiwr (nos Fawrth, Tachwedd 3).

Bu’n rhaid iddo adael y cae wrth gynhesu cyn y gêm ar ôl anafu llinyn y gâr.

Bydd yr Elyrch yn herio Norwich ddydd Sadwrn (Tachwedd 7), ond dydy hi ddim yn glir eto a fydd y Cymro Cymraeg ar gael, a hynny hefyd ar drothwy gemau Cymru.

“Fe wnaeth Ben deimlo llinyn y gâr, ond dydyn ni ddim yn sicr a wnaeth e ei dynnu neu ei anafu,” meddai Steve Cooper, rheolwr Abertawe.

“Fe wnaeth e’r peth cywir wrth roi gwybod i’r tîm meddygol ar unwaith, fe wnaethon ni’r penderfyniad cywir iddo fe beidio â dechrau’r gêm.

“Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw graddau’r anaf ond fe wnaethon ni reoli’r tîm yn dda a wnaeth e ddim effeithio ar ein perfformiad.

“Croesi bysedd nad yw’n rhy ddrwg i Ben, ond mae’n rhy gynnar i ddweud ar hyn o bryd.”