Mae UEFA wedi dweud nad oes unrhyw gynlluniau i newid fformat Ewro 2020 yn sgil adroddiadau eu bod nhw’n ystyried symud twrnament yr haf nesaf i Rwsia.
Ym mis Mawrth, penderfynodd corff llywodraethu pêl-droed Ewrop ohirio’r twrnament yn sgil pandemig y coronafeirws ond hyd yma, maen nhw’n dweud eu bod nhw’n cadw at y fformat 12 dinas yr oedden nhw wedi’i ddyfeisio’n wreiddiol.
Yn gynharach yr wythnos hon, adroddodd Le Parisien fod UEFA yn ystyried symud Ewro 2020 i Rwsia, a gynhaliodd Gwpan y Byd yn 2018, wrth i gyfraddau heintio godi ar draws y cyfandir.
“Mae UEFA yn bwriadu cynnal Ewro 2020 yn y fformat a’r lleoliadau gafodd eu cadarnhau yn gynharach eleni ac rydym yn gweithio’n agos gyda phob dinas ar y paratoadau,” meddai UEFA mewn datganiad.
“O ystyried yr ansicrwydd ynghylch y coronafeirws, mae’n rhy gynnar ar hyn o bryd i ddweud a fydd cyfyngiadau ar y gemau hynny ym mis Mehefin a mis Gorffennaf naill ai ar gefnogwyr neu hyd yn oed eu llwyfannu.”
Y dinasoedd sydd i fod i gynnal y gemau yw Amsterdam, Baku, Bilbao, Bucharaf, Budapest, Copenhagen, Dulyn, Glasgow, Llundain, Munich, Rhufain a St Petersburg.
Mae Cymru a Lloegr eisoes wedi cyrraedd y rowndiau terfynol, sy’n dechrau ar Mehefin 11 y flwyddyn nesaf ac yn dod i ben gyda’r rowndiau cyn-derfynol a’r rownd derfynol yn Wembley.
Gallai Gogledd Iwerddon a’r Alban ymuno â nhw gyda buddugoliaeth yn eu gemau ail-gyfle, fydd yn cael eu chwarae yn ddiweddarach y mis hwn.
Bydd y rownd derfynol yn cael eu cynnal ar Orffennaf 11 y flwyddyn nesaf.