Mae chwaraewyr Clwb Pêl-droed Tottenham Hotspur wedi tynnu coes y Sbaenwr Sergio Reguilon drwy ei ddarbwyllo bod y clwb wedi adeiladu tyllau golff ar eu safle ymarfer ar ôl cael gwybod fod Gareth Bale yn ymuno o Real Madrid.

Roedd y Cymro dan y lach yn Sbaen yn sgil ei hoffter o golff, ac fe wnaeth e ddal baner yn dweud ‘Cymru. Golff. Madrid. Yn y drefn honno’ yn dilyn y ffrae.

Fe wnaeth Reguilon symud o Real Madrid, hen glwb Bale, ar yr un pryd â’r Cymro, ond doedd e ddim yn sylweddoli bod y cyfleusterau golff wedi bod yn Hotspur Way ers i’r safle gael ei adeiladu.

“Yr hyn oedd yn fy synnu yw eu bod nhw wedi creu tyllau golff ar ei gyfer e yn y ganolfan hyfforddi,” meddai.

“Dim ond tyllau byr ydyn nhw ond allwn i ddim credu’r peth!”