Cafodd y Gleision eu curo o 11-7 gan Ulster yn Rodney Parade neithiwr, wrth i Rey Lee-Lo orfod gadael y cae ar wastad ei gefn ag anaf i’w ben.

Dyma bedwaredd buddugoliaeth y Gwyddelod o’r bron yn y PRO14.

Aeth y Gleision ar y blaen drwy gais Lee-Lo, a gafodd ei drosi gan Jarrod Evans, cyn i’r ymwelwyr daro’n ôl gyda chais i Michael Lowry, a chiciodd John Cooney ddwy gic gosb.

Mae Ulster yn codi i frig tabl Cyngres A, tra bod y Gleision yn dal yn ail yng Nghyngres B.