Mae’n debyg mai Ryan Giggs sydd wedi dewis carfan tîm pêl-droed Cymru ar gyfer gemau mis Tachwedd.

Fydd hyfforddwr Cymru ddim wrth y llyw ar gyfer gemau nesaf Cymru ar ôl iddo fe gael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac achosi gwir niwed corfforol.

Bydd Robert Page yn arwain y tîm yn ei absenoldeb ar gyfer y gemau yn erbyn yr Unol Daleithiau (Tachwedd 12), Gweriniaeth Iwerddon (Tachwedd 15) a’r Ffindir (Tachwedd 18), gyda Albert Stuivenberg yn ei gynorthwyo.

Mae disgwyl i’r garfan gael ei chyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol Cymdeithas Bêl-droed Cymru bore ‘ma (Tachwedd 5), ond ni fydd y Gymdeithas yn cynnal cynhadledd i’r wasg.

Cafodd Giggs ei arestio a’i ryddhau ar fechnïaeth ar ôl ffrae honedig gyda’i gariad Kate Greville yn ei gartref ym Manceinion ddydd Sul (Tachwedd 1), yn ôl papur newydd The Sun.

Dywedodd datganiad gafodd ei ryddhau ar ran Ryan Giggs ei fod yn “gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.”

Roedd Cymru wedi bwriadu cyhoeddi eu carfan ar gyfer y tair gêm fore Mawrth (Tachwedd 3), ond cafodd y cynlluniau hynny eu gohirio nos Lun (Tachwedd 2) wrth i’r newyddion am Ryan Giggs dorri.