Mae rhanbarthau Rygbi Cymru wedi cytuno i rannu benthyciad gwerth £20m.

Bydd y Scarlets yn derbyn £5.5m, Gleision Caerdydd a’r Gweilch yn derbyn £5m yr un a’r Dreigiau yn derbyn £4.5m er mwyn dygymod ag effeithiau economaidd y pandemig.

Bydd y rhanbarthau yn ad-dalu’r benthyciad dros gyfnod o bum mlynedd.

“Nod uniongyrchol y benthyciad yw cynnal pedwar tîm rhanbarthol Cymru,” meddai Steve Phillips, Prif Swyddog Gweithredol Undeb Rygbi Cymru.

“Y peth hawsaf i’w wneud byddai rhannu £20 miliwn bedair ffordd, ond er clod i bawb, cafwyd ateb llawer mwy priodol na hynny.

“Mae’r pedwar rhanbarth i gyd mewn sefyllfaoedd gwahanol, ac mae eu hanghenion yn wahanol yn unol â hynny.

“Felly, mae’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol wedi gwneud yr hyn y mae wedi’i sefydlu i’w wneud ac wedi cytuno ar ateb sy’n addas ar gyfer y pedwar tîm rhanbarthol.

“O ganlyniad, mae’r dyraniad yn un teg a synhwyrol, a chredaf y dylid canmol pawb a fu’n rhan o’r drafodaeth am gytuno ar y dyraniad yma.”

‘Rhannu’r arian yn ôl anghenion unigol’

Rhwng Undeb Rygbi Cymru a NatWest Cymru mae’r cytundeb.

Yna caiff yr arian ei fenthyg i bob rhanbarth unigol gyda thelerau rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r rhanbarthau.

Penodwyd NatWest Cymru yn fancwr swyddogol i Undeb Rygbi Cymru ym mis Mawrth 2019

Dywedodd Amanda Blanc, cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol: “Rydym yn hynod ddiolchgar i NatWest Cymru am gefnogi rygbi proffesiynol yng Nghymru gyda’r cyfraniad hynod arwyddocaol hwn a fydd yn helpu i’n cynnal am y flwyddyn i ddod.

“Bu aelodau’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol yn cymryd rhan mewn trafodaethau agored am ddyrannu arian yn ôl anghenion unigol a gwahanol pob tîm rhanbarthol.

“Dyma bwrpas y Bwrdd Rygbi Proffesiynol, i reoli, hwyluso a galluogi rygbi proffesiynol yng Nghymru ac i gynnal pob un o’r pum tîm proffesiynol yn unol ag anghenion pob un ar adeg benodol.

“Dangoswyd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol yn gweithio ar ei orau, wrth i ranbarth dderbyn a phleidleisio ar benderfyniad sy’n rhoi llai o arian iddynt eu hunain na ranbarth cyfagos, ond am resymau y gellir eu cyfiawnhau a’u dyblygu’n llwyr.”

Bydd yr £20m yn rhan o Gynllun Benthyciadau Ymyriad Coronafeirws i Fusnesau Mawr gan y llywodraeth (CLBILS).

Bwriad y cynllun yw hwyluso mynediad at gyllid i fusnesau canolig a busnesau mwy a gaiff eu heffeithio o ganlyniad i’r coronafeirws.

Yn unol â’r telerau, caiff NatWest Cymru warant rannol o 80% gan y llywodraeth, yn erbyn gweddill yr hyn sy’n ddyledus, ond Undeb Rygbi Cymru sydd yn parhau i fod yn atebol am y ddyled.