Bydd Undeb Rygbi Cymru yn penodi cadeirydd newydd wythnos nesaf.

Ieuan Evans a Rob Butcher yw’r ddau ymgeisydd ar gyfer y swydd.

Ar ôl chwe blynedd wrth y llyw collodd y cyn cadeirydd Gareth Davies ei le ar Gyngor Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru fis Medi. 

Cyn asgellwr Cymru, Ieuan Evans, yw’r unig aelod newydd o’r bwrdd.

Mae Rob Butcher, cyn-athro ymarfer corff a fu’n chwarae i Glwb Rygbi Bargoed, wedi bod yn aelod o fwrdd Undeb Rygbi Cymru ers 2015.

“Mae gan y ddau ymgeisydd lawer o hanes yn ymwneud â’r gêm,” meddai Steve Phillips, Prif Weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru

“Mae’n rôl bwysig o fewn Undeb Rygbi Cymru.

“Mae’n rôl heriol, ond rwy’n credu bod y ddau ymgeisydd yn cydnabod beth yw’r heriau yma.

“Bydd angen iddynt fod yn barod ar gyfer yr her sydd o’u blaenau, ac fel pob cwmni arall bydd angen perthynas agos rhwng y cadeirydd newydd a’r Prif Swyddog Gweithredol.”