Mae Ieuan Evans yn dweud ei bod yn “anrhydedd enfawr” cael ei ethol yn Aelod Cyngor Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru.

Fe gurodd cyn-gapten Cymru y ddau ymgeisydd arall, Nigel Davies a’r aelod presennol Gareth Davies.

Bydd e’n dechrau yn ei rôl ar ôl y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol fis Hydref, sef cyfarfod olaf Gareth Davies yn gadeirydd yr Undeb ar ôl dau dymor a chwe blynedd wrth y llyw.
“Mae’n anrhydedd fawr cael fy newis gan glybiau sy’n aelodau i’w cynrychioli nhw ar Gyngor Undeb Rygbi Cymru, a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i ad-dalu’r ffydd maen nhw wedi’i ddangos ynof fi,” meddai Ieuan Evans.
“Mae’r gêm gymunedol yn hanfodol i iechyd a lles cyffredinol ein camp genedlaethol ac ar y seiliau hyn y dylem ni adeiladu ein dyfodol.
“Tra bod rhaid i ni herio, gwerthuso ac adolygu’n barhaus, hoffwn hefydd ddiolch i Gareth am ei ymroddiad yn ystod ei gyfnod ar y Cyngor ac am ei wasanaeth i rygbi yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd.”

Etholiad nesaf

Yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, bydd Cyngor Undeb Rygbi Cymru’n ethol pedwar aelod, gan gynnwys un o Aelodau’r Cyngor Cenedlaethol i ymuno â Bwrdd yr Undeb.

Bydd y Bwrdd wedyn yn ethol cadeirydd newydd.

Mae 12 aelod ar y Bwrdd, gan gynnwys y Prif Weithredwr a dau gyfarwyddwr anweithredol sydd heb eu hethol, yn ogystal â Chadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol.

Mae Gareth Davies wedi llongyfarch Ieuan Evans ar gael ei ethol ac wedi dymuno’n dda iddo fe, ac wedi diolch i Nigel Davies am ei “ymroddiad a’i frwdfrydedd” yn ystod yr etholiad.