Bydd rhannau o Barc y Scarlets, cartref tîm rygbi rhanbarthol y Scarlets, yn parhau i gael ei ddefnyddio fel ysbyty maes.
Yn dilyn trafodaethau â Chyngor Tref Llanelli a Pharc y Scarlets, mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cytuno i gadw rhan helaeth o’r ysbyty maes yn Ysbyty Enfys y Scarlets ac i gadw Ysbyty Enfys Selwyn Samuel yn ei gyfanrwydd.
Er bod y cyfleusterau ysbyty eisoes wedi’u datgomisiynu yn y brif stadiwm, bydd ysgubor y Scarlets ar gael pe bai angen yn y dyfodol.
Bydd cyfarpar, megis gwelyau, byrddau, sinciau a sgriniau preifatrwydd i gyd yn cael eu storio a’u hailddefnyddio gan y bwrdd iechyd ar gyfer safleoedd ysbytai eraill.
Ysbyty Enfys y Scarlets
Wrth i rygbi rhanbarthol ddychwelyd am y tro cyntaf ers ymlediad y coronafeirws, llwyddodd y Scarlets i sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws o 32-12 yn erbyn y Gleision ar Barc y Scarlets fis diwethaf.
Er hyn, eglurodd Jon Daniels, rheolwr rygbi cyffredinol y Scarlets, fod y rhanbarth yn falch o allu parhau i gynnig cyfleusterau ysbyty i’r bwrdd iechyd ac i’r gymuned.
“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cadw cyfleusterau’r ysbyty ar gyfer ein cymuned ac rydym yn falch o wneud hynny yma ym Mharc y Scarlets”, meddai.
“Er y bydd yr ysgubor hyfforddi yn parhau i fod yn ysbyty maes, nid yw hyn yn effeithio ar ein gallu i weithredu fel stadiwm rygbi ar gyfer gemau yn y dyfodol a phetai rheoliadau’r llywodraeth yn ein galluogi i groesawu cefnogwyr yn ôl.”
Bydd y Scarlets yn teithio i Toulon ddydd Sadwrn (Medi 19) ar gyfer gêm yn rownd wyth olaf cystadleuaeth Cwpan Her Ewrop.
Ysbyty Enfys Selwyn Samuel
Dywedodd Shahana Najmi, arweinydd Cyngor Tref Llanelli, fod y Cyngor yn hapus i barhau i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd.
“Rydym ni’n ymfalchïo wrth gefnogi ymdrechion partneriaid, ond fel eraill, yn gobeithio na fydd yn rhaid defnyddio’r cyfleusterau”, meddai.
“Bydd y rhan fwyaf o’r deunyddiau adeiladu sy’n cael eu symud o’r ysbytai maes yn cael eu hailddefnyddio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyda rhai o’r deunyddiau’n cael eu cynnig i elusennau cymunedol lleol sy’n ailddefnyddio ac yn atgyweirio, gan gynnwys Men’s Sheds.”
Pwysleisiodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Hywel Dda, nad yw’r feirws wedi diflannu.
“O’r dechrau, yr her fwyaf yr ydym ni a’n partneriaid wedi’i hwynebu oedd yr angen i gydbwyso iechyd a llesiant cyhoeddus ein cymunedau â’r angen i’n cymdeithas a’n heconomi ddychwelyd at fath o normalrwydd,” meddai.
“Ar yr un pryd, rhaid i ni bwysleisio nad yw’r feirws hwn wedi diflannu, a’n bod yn barod i ddarparu gwelyau’n gyflym ar fyr rybudd mewn sawl ardal os oes angen, yn enwedig wrth i ni agosáu at yr adeg gritigol ar ddechrau’r hydref a’r gaeaf.”