Wrth holi’r cyhoedd am eu bwriadau pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd mae’r Welsh Barometer Poll yn awgrymu fod y gefnogaeth tuag at y prif bleidiau yn parhau yn gyson.

Er bod y gefnogaeth i’r Blaid Lafur yn debyg i’r gefnogaeth yn 2016, adeg yr etholiad diwethaf, mae’r ymchwil, a gafodd ei gwblhau gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, yn awgrymu y bydd Llafur yn colli saith o’u seddi (er bod y system seddi rhanbarthol yn golygu mai cwymp o bump fyddai yng nghyfanswm seddi’r blaid, gweler isod).

Yn ôl Roger Awan-Scully, Cadeirydd y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol, mae’n debyg y bydd y Ceidwadwyr yn cipio Bro Morgannwg, Dyffryn Clwyd, Gŵyr, a Wrecsam, a Phlaid Cymru yn cipio Llanelli, Blaenau Gwent a Gorllewin Caerdydd.

Mae’r gefnogaeth ar gyfer etholaethau Cymru yn y Senedd fel a ganlyn:

Llafur: 34% (dim newid)

Ceidwadwyr: 29% (-2)

Plaid Cymru: 24% (+2)

Plaid Brexit: 4% (+1)

Democratiaid Rhyddfrydol: 3% (-2)

Gwyrddion: 3% (dim newid)

Eraill: 3% (dim newid)

Rhestr ranbarthol

Mae’r gefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn “hanesyddol o isel” erbyn hyn, yn enwedig ar gyfer y rhestr ranbarthol.

Dyma’r tro cyntaf iddynt fod yn seithfed ar y rhestr ranbarthol, gyda’r Blaid Werdd, Plaid Brexit ac Abolish the Assembly yn ennill mwy o gefnogaeth na’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Fel arall, ychydig iawn o newid sydd wedi bod ers yr Arolwg Barn ym mis Mehefin gyda’r Blaid Lafur yn ennill ychydig o dir, a Phlaid Cymru yn gadarn yn y trydydd safle.

Llafur: 33% (+1)

Ceidwadwyr: 27% (-1)

Plaid Cymru: 23% (-1)

Diddymu’r Cynulliad: 4% (dim newid)

Plaid Brexit: 4% (+1)

Gwyrddion: 4% (+1)

Y Democratiaid Rhyddfrydol: 3% (-2)

Eraill: 2% (+1)

O gyfuno seddi’r etholaethau a seddi’r rhanbarthau mae’n debyg y byddai gan y Blaid Lafur 25 sedd, y Ceidwadwyr â 19 sedd, Plaid Cymru â 15, a’r Democratiaid Rhyddfrydol ag 1.

“Y tawelwch cyn y stormydd gwleidyddol”

“O ystyried pa mor rhyfedd mae’r haf wedi bod, mae’n syndod, efallai, cyn lleied o newid sydd wedi bod i’r gefnogaeth,” meddai Roger Awan-Scully.

“Er hynny, efallai mai dyma’r tawelwch cyn y stormydd gwleidyddol.

“Mae’n debyg y bydd argyfwng Covid-19 a Brexit yn gwmwl dros wleidyddiaeth ddatganoledig dros y misoedd nesaf wrth arwain at etholiadau’r Senedd.

“Efallai y bydd ffawd nifer o’r ymgeiswyr yn dibynnu ar ddigwyddiadau hanesyddol allanol, fydd tu hwnt i’w rheolaeth.

Pwysleisiodd “na ddylai’r diffyg newid mewn cefnogaeth wneud i ni gredu y bydd y misoedd nesaf mewn gwleidyddiaeth yn rhai diflas.”

Cafodd 1,110 o bobol o Gymru eu holi ar gyfer yr arolwg barn, ac am y tro cyntaf roedd yr arolwg yn cynnwys pobol ifanc rhwng 16-17 gan eu bod yn cael pleidleisio yn etholiadau’r Senedd o hyn ymlaen.

O ran hyn, dywedodd yr Athro Awan-Scully:

“Yn ymarferol, dim ond gwahaniaeth bach a wna hyn i’r lefelau cymorth a gofnodwyd ar gyfer y partïon.

“Serch hynny, mae’n bwysig cynnwys y pleidleiswyr ifanc hyn, fel y byddant ar gyfer pob etholiad Barometer rhwng nawr ac etholiad y Senedd fis Mai nesaf.”

Cafodd yr arolwg ei gynnal rhwng Awst 28 a Medi 4.