Ychydig iawn o newid sydd wedi bod i fwriadau pleidleisio Cymru ar gyfer etholiadau San Steffan, yn ôl arolwg barn y Welsh Barometer Poll.

Nid yw’r ymchwil – a gafodd ei gwblhau gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd – yn dangos cymaint o newid barn o gymharu ag arolwg Mehefin a ddangosodd gwymp sylweddol yn y gefnogaeth i’r Ceidwadwyr Cymreig.

Dyma’r ffigurau bwriad pleidleisio (gyda newidiadau ers pôl piniwn y Barometer ym mis Mehefin mewn cromfachau):

Llafur: 41% (+2)
Ceidwadwyr: 33% (-2)
Plaid Cymru: 15% (dim newid)
Plaid Brexit: 4% (+2)
Gwyrddion: 3% (dim newid)
Democratiaid Rhyddfrydol: 2% (-3)
Eraill: 2% (+1)

Ym mis Mehefin awgrymodd yr arolwg barn mai Llafur fyddai’n ennill y mwyaf o seddi Cymru yn San Steffan (21), a’r Ceidwadwyr yn dod yn ail (15).

Bellach, mae’r gwahaniaeth rhwng y pleidiau wedi cynyddu fymryn, gyda disgwyl i’r Blaid Lafur ennill 24 o seddi Cymru, ac i’r Ceidwadwyr ennill 11.

Mae’r gefnogaeth i Blaid Cymru yn parhau yn gyson, ac mae disgwyl iddynt ennill un sedd yn ychwanegol yn San Steffan.

Dyma’r canlyniad rhagamcanol o ran seddi:

Llafur: 24 (+2)

Ceidwadwyr: 11 (-3)

Plaid Cymru: 5 (+1)

“Ychydig iawn o newid”

Awgryma’r ystadegau hyn “mai ychydig iawn o newid sydd wedi bod i dynged y prif bleidiau dros haf rhyfedd 2020,” yn ôl un sylwebydd gwleidyddol.

Er hynny, “mae’r ystadegau yn cyd-fynd â thystiolaeth ledled Prydain fod cynnydd yn y gefnogaeth i’r Blaid Lafur dan arweinyddiaeth Sir Keir Starmer,” meddai Roger Awan-Scully o Brifysgol Caerdydd.

O gymharu â’r parhad cadarn mewn cefnogaeth i Blaid Cymru, mae’r arolwg barn yn “siomedig iawn i’r Democratiaid Rhyddfrydol,” yn ôl yr Athro Awan-Scully.

“Dyddiau gwirioneddol anodd i’r Democratiaid Rhyddfrydol”

Flwyddyn yn ôl roedd awgrymiadau fod cefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol ar gynnydd yn sgil ennill isetholiad Brycheiniog a Maesyfed, ond mae’r arolwg barn yma yn dangos fod y gefnogaeth tuag atynt ar ei lefel isaf ers dechrau’r ganrif – os nad erioed.

“Mae’r rhain yn ddyddiau gwirioneddol anodd i’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.”

Mae disgwyl y byddai’r Ceidwadwyr golli seddi Pen-y-bont ar Ogwr a Delyn i’r Blaid Lafur, ac y byddai Plaid Cymru yn cipio Ynys Môn oddi ar y Ceidwadwyr.

Enillodd y Ceidwadwyr y tair sedd hyn oddi wrth y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol Rhagfyr 2019.