Mae tîm rhyngwladol o seryddwyr wedi darganfod moleciwl prin yng nghymylau’r Blaned Gwener.
Dan arweiniad yr Athro Jane Greaves o Brifysgol Caerdydd, mae’r tîm wedi dod o hyn i foleciwl ffosffan, nwy sydd yn cael ei greu yn ddiwydiannol ar y Ddaear, neu gan ficrobau sy’n byw mewn amgylcheddau lle nad oes ocsigen.
Ers degawdau mae seryddwyr wedi dyfalu y gallai cymylau uchel ar y Blaned Gwener fod yn gartref i ficrobau.
Er mwyn byw mae’n rhaid i’r microbau oddef lefelau asid uchel iawn, ac mae’r darganfyddiad yn awgrymu bod bywyd ‘awyrol’ tu hwnt i’r Ddaear.
Cafodd y ffosffan, cyfuniad o hydrogen a ffosfforws, ei ddarganfod gan delesgopau yn Hawaii ac yn Chile.
Darganfod ffosffan yn “sioc”
Meddai’r Athro Jane Greaves, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: “Arbrawf oedd hwn a wnaethon ni oherwydd chwilfrydedd pur, a dweud y gwir – gan fanteisio ar dechnoleg bwerus telesgopau JCMT.
“Roeddwn i’n meddwl y gallem anwybyddu senarios eithafol, er enghraifft, bod y cymylau’n llawn organebau.
“Pan gawson ni’r awgrymiadau cyntaf bod ffosffan yn sbectrwm Fenws, roedd yn sioc!”
Wrth wneud y canfyddiadau cyntaf yn Hawaii roedd Jane Greaves a’i thîm yn wyliadwrus, ond o gael mwy o amser gyda thelesgop arall yn Chile ac ar ôl chwe mis o brosesu data, cafodd y darganfyddiad ei gadarnhau.
“Yn y pen draw, canfuom ni fod y ddwy arsyllfa wedi gweld yr un peth – amsugno gwan ar y donfedd gywir i fod yn nwy ffosffan, lle mae’r cymylau cynhesach oddi tano yn goleuo’r moleciwlau o’r tu cefn,” meddai Jane Greaves.
Y darganfyddiad yn codi cwestiynau
Ar ôl casglu’r data defnyddiodd Dr Hideo Sagawa o Brifysgol Kyoto Sangyo ei fodelau ar gyfer atmosffer y Blaned Gwener i’w ddehongli.
Daeth i’r canlyniad bod ffosffan yno ond ei fod yn brin – ugain moleciwl yn unig ym mhob biliwn.
Ceisiodd y seryddwyr weld a yw’n bosib i ffosffan ddod o brosesau naturiol ar y Blaned Gwener, gyda rhai syniadau yn cynnwys heulwen, mwynau wedi’u chwythu fyny o’r arwyneb, llosgfynyddoedd, neu fellt.
Mae’r debygol y byddai unrhyw ficrobau ar y Blaned Gwener yn wahanol iawn i ficrobau ar y Ddaear, gan fod rhaid iddynt oroesi mewn amodau hynod o asidig.
Meddai Dr Clara Sousa Silva “Roedd dod o hyd i ffosffan ar y Blaned Gwener yn fonws annisgwyl!
“Mae’r canfyddiad hwn yn codi cymaint o gwestiynau, er enghraifft, sut gallai unrhyw organebau oroesi.
“Ar y Ddaear, mae rhai microbau’n gallu ymdopi â hyd at tua 5% o asid yn eu hamgylchedd – ond mae cymylau Gwener wedi’u gwneud o asid bron yn llwyr.”
Mwy o waith angen ei wneud er mwyn cadarnhau presenoldeb “bywyd”
Yn ôl y tîm mae angen llawer mwy o waith er mwyn cadarnhau presenoldeb “bywyd.”
Mae’r tîm yn awyddus i ddefnyddio mwy ar y telesgopau er mwyn gweld ar yw’r ffosffan mewn rhan gymharol dymherus o’r cymylau, ac er mwyn chwilio am nwyon eraill sydd yn gysylltiedig â bywyd.
Fe wnaeth yr Athro Emma Bruce, Llywydd y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, longyfarch darganfyddiad y tîm, gan ddweud:
“Cwestiwn allweddol ym maes gwyddoniaeth yw a oes bywyd y tu hwnt i’r Ddaear, ac mae’r darganfyddiad gan yr Athro Jane Greaves a’i thîm yn gam allweddol ymlaen yn y chwilio hwnnw.
“Rwy’n arbennig o falch o weld bod gwyddonwyr y Deyrnas Unedig yn arwain datblygiad mor bwysig – rhywbeth sy’n gwneud achos cryf dros daith ofod yn ôl i’r Blaned Mawrth.”