Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth am fyrgleriaeth o gartref ger tafarn y Llwyndafydd Inn, Saron.

Cafodd swm o arian parod a gemwaith o werth sentimental sylweddol eu dwyn.

Digwyddodd y fyrgleriaeth ddydd Sadwrn, 22 Awst, rhwng 10.30am a hanner dydd, pan aeth y lladron i gartref a dwyn swm o arian parod a gemwaith.

Eitemau

Ymhlith yr eitemau a gafodd eu dwyn roedd oriawr aur a roddwyd i un o’r dioddefwyr oedrannus gan ei rhieni ar ei phen-blwydd yn 21 oed, perlen aur yr oedd y dioddefwyr wedi bod yn berchen arno ers 56 mlynedd, cadwyn aur gyda phendant hir, tenau a oedd yn perchen i fam un o’r dioddefwyr, a breichled a roddwyd i un o’r dioddefwyr ym mhriodas ei chwaer 60 mlynedd yn ôl.

Apelio

Dywedodd PC Gethin Lewis: “Roedd hon yn drosedd ofnadwy, ac i gwpwl oedrannus hyfryd. Mae rhai o’r eitemau hyn o werth sentimental enfawr ac wedi bod yn y teulu ers degawdau.

“Digwyddodd hyn yn y bore, pan roedd nifer o bobl gartref ar y pryd.

“Byddwn yn apelio am unrhyw un a welodd unrhyw beth neu unrhyw un amheus y diwrnod hwnnw i alw’r heddlu.

“Hoffwn hefyd atgoffa trigolion lleol i sicrhau bod eu diogelwch o’r safon sydd ei angen ac i fod yn wyliadwrus.”

Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth am y digwyddiad, dylid cysylltu â PC 53 Lewis yng ngorsaf Castellnewydd Emlyn.