Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i brofi yn wythnosol mewn cartrefi gofal yn y Gogledd.

Yn ystod cynhadledd Llywodraeth Cymru heddiw (14 Medi) cadarnhaodd Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, mai bob pythefnos fydd profion coronafeirws yn digwydd mewn cartrefi gofal yn y gogledd.

Y nifer isel o achosion newydd yn y gogledd sydd wrth wraidd y penderfyniad i newid y drefn, yn ôl Vaughan Gething.

Profion wythnosol er mwyn amddiffyn preswylwyr

Mewn ymateb i’r cynlluniau i leihau’r profion mynnodd Rhun ap Iorwerth AS, Gweinidog Iechyd Plaid Cymru fod “rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i gynnal profion Covid-19 mewn cartrefi gofal bob wythnos er mwyn amddiffyn y preswylwyr.

“Mae peryg i breswylwyr cartrefi gofal fynd yn sâl iawn gyda’r coronafeirws, a ni all y llywodraeth eu siomi eto.

“Mae’r diffyg capasiti i brofi pobol yn y De wedi deillio o orddibyniaeth Llywodraeth Cymru ar labordai Prydeinig Lighthouse, yn hytrach na datblygu adnoddau ac arbenigedd yng Nghymru.

“Yn hytrach na rhoi pobol mewn perygl, mae’n rhaid gwneud newidiadau sydyn i’r system brofi, gyda mwy o bwyslais ar ganolfannau profi a labordai Cymreig fydd dan ein rheolaeth ni.

“Yn syml, nid yw’n ddigon da caniatáu i breswylwyr cartrefi gofal ddioddef eto.”

Mae golwg360 wedi holi Llywodraeth Cymru am ymateb.