Mae’r RSPCA yn annog y cyhoedd i dorri’r strapiau oddi ar fasgiau tafladwy, wrth iddynt ddechrau ar raglen newydd Cadwch Gymru’n Daclus, ‘Hydref Glân Cymru’.

Daw’r galwadau wrth i fasgiau ddod yn orfodol mewn siopau a mannau cyhoeddus eraill yng Nghymru heddiw.

Ers dechrau’r pandemig mae masgiau wedi dod yn berygl newydd i fywyd gwyllt, ac ers dechrau’r cyfnod clo mae’r RSPCA wedi delio gyda 35 achos o anifeiliaid yn cael eu dal mewn sbwriel yng Nghymru.

Ymysg yr achosion roedd alarch o’r Rhyl a gafodd ei ddal mewn sgwâr o ganolfan chwarae plant.

Pryderon am beryglon masgiau i anifeiliaid

Dywedodd Prif Weithredwr yr RSPCA, Chris Sherwood, “ers blynyddoedd mae’r cyhoedd wedi bod yn ymwybodol o’r neges i dorri’r cylchoedd plastig, sydd gan amlaf yn dal caniau, cyn eu taflu er mwyn atal anifeiliaid rhag cael eu dal ynddynt.

“Nawr rydym yn awyddus i rannu’r un neges ynghylch masgiau – yn anffodus, mae anifeiliaid yn dueddol o gael eu dal ynddynt.

“Gan fod gwisgo masgiau yn digwydd fwyfwy, yn enwedig wrth iddynt ddod yn orfodol mewn siopau a dan do mewn llefydd cyhoeddus, mae ein neges i dorri’r strapiau oddi ar fasgiau yn bwysicach fyth.

“Mae miloedd o fasgiau yn cael eu taflu bob diwrnod,” meddai Chris Sherwood.

“Rydym yn bryderus y gall masgiau fod yn beryglus iawn, yn enwedig i anifeiliaid gwyllt ac adar.

“Mae ein swyddogion wedi gorfod achub anifeiliaid rhag cael eu dal mewn mygydau eisoes, ac rydym yn bryderus y bydd yr achosion yn cynyddu wrth i amser fynd yn ei flaen.

Yn Chelmsford, Essex, cafodd masg ei glymu am goesau gwylan, ac er bod y masg wedi ei glymu mor dynn nes achosi i’w choesau chwyddo mae’r wylan wedi gwella erbyn hyn.

Serch hyn, mae RSPCA Cymru yn gobeithio y bydd neges sy’n annog pobol i dorri’r strapiau oddi ar y masgiau yn atal achosion tebyg yng Nghymru.

Pwysleisiodd mai’r “peth gorau i wneud yw torri’r strapiau cyn eu taflu.”

Mae modd atal rhan fwyaf o’r achosion ble mae sbwriel yn effeithio ar anifeiliaid drwy gael gwared ar y nwyddau yn gywir, meddai’r RSPCA.

Gall tuniau, bandiau elastig, gwydr wedi torri a bagiau plastig fod yn beryglus i anifeiliaid, ac mae’r RSPCA yn annog pobol i gael gwared arnynt mewn modd cyfrifol.