Mae bellach yn orfodol i wisgo gorchudd wyneb mewn siopau a mannau cyhoeddus dan do yng Nghymru.
Bydd uchafswm newydd o chwech o bobol yn gallu cyfarfod dan do ar unrhyw un adeg wrth i gyfyngiadau newydd ddod i rym heddiw (dydd Llun, Medi 14).
Cyhoeddodd y prif weinidog Mark Drakeford y newidiadau yr wythnos ddiwethaf gan fod Covid-19 “ar gynnydd eto”, gydag 20 o bob 100,000 o bobol wedi dal y coronafeirws yng Nghymru.
Dydy’r rheolau newydd ddim yn berthnasol i blant dan 11 oed.
Dydy’r rheolau ddim chwaith yn berthnasol i briodasau nac angladdau, lle gall grwpiau o hyd at 30 o bobol gwrdd o hyd.
Mae gofyn i bobol ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am resymau hanfodol yn unig, ac i beidio ag ymweld â chartrefi gofal oni bai am ymweliadau diwedd oes.
Gall unrhyw un sydd yn torri’r gyfraith newydd wynebu dirwyon o hyd at £1,920.
Cloi lleol
Cafodd cyfyngiadau lleol eu cyflwyno yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddydd Mawrth (Medi 8) diwethaf ac mae mesurau ychwanegol hefyd wedi eu cymryd ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf i fynd i’r afael a’r cynnydd mewn achosion.
Achosion
Roedd 162 achos arall o Covid-19 yng Nghymru ddoe (dydd Sul, Medi 13), gan ddod â chyfanswm yr achosion sydd wedi’u cadarnhau i 19,390.
O blith yr achosion newydd hyn, roedd 47 yn Rhondda Cynon Taf, 31 yng Nghaerffili, 15 yng Nghasnewydd, 14 yng Nghaerdydd a phedwar ym Merthyr Tudful.