Am y trydydd diwrnod yn olynol, mae dros 3,000 o achosion newydd o’r coronafeirws wedi cael eu cadarnhau ledled gwledydd Prydain dros y 24 awr diwethaf.
Mae’r cynnydd o 3,330 yn codi cyfanswm yr achosion i 368,504.
Mae 162 o achosion newydd o’r coronafeirws wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru dros yr un cyfnod – bron union yr un cynnydd â’r diwrnod cynt.
Mae cyfanswm achosion Cymru bellach wedi codi i 19,390, a chyfanswm y marwolaethau yn aros ar 1,597 heb ddim marwolaethau newydd wedi eu cofnodi ers dechrau’r mis.
Yn yr Alban, mae’r 244 o bobl sydd wedi profi’n bositif dros y cyfnod 24-awr diwethaf y nifer uchaf ers 6 Mai – dros bedwar mis yn ôl.
Mae cyfanswm o 22,679 o bobl wedi profi’n bositif yn yr Alban – sy’n 3.7% o’r holl unigolion a gafodd eu profi am yr haint.
Mae cyfanswm y marwolaethau yno yn aros ar 2,499, heb ddim achosion newydd wedi eu cofnodi dros y 24 awr diwethaf. Mae’r feirws wedi’i gadarnhau mewn 259 o gleifion ysbyty, sydd 2 yn llai na’r diwrnod cynt.
Roedd pump o gleifion a oedd wedi profi’n bositif i’r coronafeirws wedi marw mewn ysbytai yn Lloegr yn y 24 awr rhwng 11 a 12 Medi.