Mae Liz Saville Roberts yn dweud bod yna “atsain bryderus” o helynt boddi Cwm Tryweryn yn y ddeddfwriaeth a allai roi’r grym tros ddŵr yng Nghymru yn nwylo Llywodraeth Prydain.
Mae boddi’r cwm yn 1965 i sicrhau cyflenwad dŵr i Lerpwl yn dal yn ddigwyddiad o bwys hanesyddol a diwylliannol yng Nghymru, yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
Pleidleisiodd pob aelod seneddol Cymreig ond un o blaid y mesur dadleuol a seliodd dynged trigolion pentref Capel Celyn, ac mae’r digwyddiad yn cael ei gofio gyda murluniau ym mhob cwr o Gymru erbyn hyn, ac yn fwyaf enwog ger Llanrhystud yng Ngheredigion.
Byddai Bil y Farchnad Fewnol yn rhoi’r grym tros faterion sydd wedi’u datganoli’n llwyr yn ôl yn nwylo Llywodraeth Prydain, gan osgoi gorfod cael sêl bendith Aelodau o’r Senedd.
Ymhlith y materion hyn mae isadeiledd dŵr.
‘Lefel syfrdanol o anwybodaeth hanesyddol’
Mae’r ddeddfwriaeth eisoes dan y lach am anwybyddu rhannau helaeth o’r hyn a gafodd ei benderfynu wrth i’r mwyafrif o bobol bleidleisio tros adael yr Undeb Ewropeaidd.
Bellach, mae Liz Saville Roberts yn cyhuddo San Steffan o “lefel syfrdanol o anwybodaeth hanesyddol”, gan ychwanegu bod boddi Capel Celyn yn dystiolaeth o’r hyn sy’n digwydd pan fo gan San Steffan rym dros Gymru.
Bydd y ddeddfwriaeth yn destun pleidlais heddiw (dydd Llun, Medi 14), ac mae Plaid Cymru, yr SNP, y Democratiaid Rhyddfrydol, yr SDLP, y Blaid Werdd ac Alliance wedi cynnig gwelliant er mwyn ceisio atal y ddeddfwriaeth rhag mynd ymhellach.
“Gallwn weld arwyddocâd rheolaeth Gymreig dros ddŵr o hyd ym mhwysigrwydd parhaus ‘Cofiwch Dryweryn’ – murluniau a delweddau ‘Cofiwch Dryweryn’ ledled Cymru,” meddai.
“Mae ymgais Bil y Farchnad Fewnol i gipio grymoedd tros y mater hwn yn atsain bryderus o’r digwyddiad enwog hwnnw o foddi Capel Celyn gan San Steffan, yn groes i ddymuniadau Cymru.
“Rydym yn gwybod y bydd y Bil hwn yn torri cyfraith ryngwladol, yn peryglu Cytundeb Gwener y Groglith ac yn chwalu’r setliad datganoli, ond mae’r anwybodaeth hanesyddol wrth geisio pwerau tros isadeiledd dŵr Cymreig yn syfrdanol.
“Er ei fod dros bedwar degawd yn ôl, mae boddi Capel Celyn yn dal yn fyw yng nghof cenedlaethol Cymru, ac yn ein hatgoffa o’r hyn sy’n digwydd pan fo gan San Steffan rym dros Gymru.
“Mae San Steffan fel pe bai’n benderfynol nid yn unig o danseilio ein setliad datganoli, ond o ddiystyru ein diwylliant a’n hanes mewn modd cywilyddus.
“Bydd Plaid Cymru’n gwrthwynebu’r Bil hwn bob cam o’r ffordd.”