Mae llanc 17 oed yn ymladd am ei fywyd yn Ysbyty Stoke ar ôl cael ei hedfan yno wedi damwain ffordd ger Llanelwy neithiwr (nos Sadwrn 12 Medi).

Roedd yn reidio sgwter tua’r dwyrain ar yr A55 ger cyffordd 26 Parc Busnes Llanelwy pan fu mewn gwrthdrawiad â Vauxhall Astra yn fuan ar ôl 10pm.

Mae ei anafiadau’n cael eu disgrifio fel rhai sy’n rhoi ei fywyd mewn perygl.

Mae’r heddlu’n apelio am unrhyw dystion i’r digwyddiad, neu unrhyw un a oedd yn teithio ar yr A55 ar y pryd i gysylltu â nhw ar 101 neu we sgwrs fyw gan nod cyfeirnod Y134933.