Mae o leiaf 31 o bobl wedi marw wrth i danau gwyllt losgi ar hyd arfordir gorllewinol yr Unol Daleithiau.
Gan rybuddio fod rhagor o farwolaethau’n debygol, mae gwasanaethau brys Oregon yn paratoi i geisio atal trychineb angheuol mawr rhag digwydd yn y dalaith.
Yn y cyfamser, mae mwg o’r tanau gwyllt yn achosi perygl iechyd i filiynau, wrth i ddiffoddwyr ymladd y tanau marwol sydd eisoes wedi llosgi rhai trefi i’r llawr a gorfodi degau o filoedd o bobl i ffoi o’u cartrefi.
Roedd ansawdd aer yn Salem, prifddinas Oregon, fore ddoe y gwaethaf erioed ers o leiaf 35 mlynedd, pryd y dechreuodd gael ei fesur am y tro cyntaf.
Mae dros 40,000 o bobl yn y dalaith eisoes wedi ffoi o’u cartrefi, a 500,000 arall wedi cael eu rhybuddio i fod ar eu gwyliadwriaeth i wneud hynny ar fyr rybudd os bydd angen.
Mae mwy na 1,500 o filltiroedd sgwâr wedi llosgi yn Oregon dros y dyddiau diwethaf, bron ddwywaith cymaint ag mewn blwyddyn arferol ac sy’n arwynebedd mwy na thalaith Rhode Island.
Tebyg yw’r sefyllfa yn y ddwy dalaith gyfagos hefyd.
Yn nhalaith Washington i’r gogledd, mae’r tanau dros y pum niwrnod diwethaf yn unig yn gwneud tymor y tanau eleni yr ail waethaf erioed. Yn California i’r de, mae 16,000 o ddiffoddwyr tân wedi bod yn ymladd 28 o danau ledled y dalaith, er bod 24 ohonyn nhw wedi cael eu diffodd bellach.
Mae’r ymgeisydd arlywyddol Joe Biden a llywodraethwyr y tair talaith – pob un o’r Blaid Ddemocrataidd – o’r farn fod y tanau o ganlyniad i gynhesu byd-eang.
“Rhaid inni weithredu ar unwaith i osgoi dyfodol sy’n cael ei ddiffinio gan drychinebau ddiddiwedd fel yr un mae teuluoedd Americanaidd yn ei ddioddef ar draws y Gorllewin heddiw,” meddai Joe Biden.