Mae ymddygiad ‘hynod’ Llywodraeth Prydain yn gwneud drwg i ‘enw da’r Deyrnas Unedig’, yn ôl gweinidog tramor Iwerddon.

Roedd Simon Coveney yn ymateb i’r ffordd mae’r Prif Weinidog Boris Johnson ac eraill yn bygwth newid y cytundeb ar adael yr Undeb Ewropeaidd.

Rhybuddia fod cynlluniau Llywodraeth Prydain yn peri “risg difrifol” i’r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon a’u bod yn creu drwgdeimlad rhwng y ddwy wlad.

“Mae economïau Prydain ac Iwerddon am gael eu difrodi’n sylweddol a bydd hynny o ganlyniad i fethiant gwleidyddol a dim byd arall,” meddai.

“Mae Llywodraeth Prydain yn ymddwyn mewn ffordd hynod, ac mae angen i bobl Prydain wybod hynny, oherwydd y tu allan i Brydain mae enw da’r Deyrnas Unedig fel partner trafod i ymddiried ynddo yn cael ei ddifrodi.”

Mae’n wfftio hefyd at honiadau gan Boris Johnson y gallai’r Undeb Ewropeaidd rwystro nwyddau o Brydain rhag mynd i mewn i Ogledd Iwerddon.

“Does dim blocâd yn cael ei gynnig,” meddai. “Dyma’r math o iaith ymfflamychol sy’n dod o Rif 10 – sbin yw hyn, nid y gwir.”

Mae Taoiseach Iwerddon, Micheal Martin, hefyd wedi trafod y mater gyda Llywydd Cyngor Ewrop, Charles Michel, sy’n arwain penaethiaid gwladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd fod 27 gwlad yr Undeb Ewropeaidd yn galw’n unfrydol am i’r Cytundeb Ymadaeth/Protocol Gogledd Iwerddon gael ei weithredu’n llawn.

“Rhaid i’r gyfraith a chytundebau rhyngwladol gael eu hanrhydeddu,” meddai.