Mae nifer yr achosion coronafeirws mewn cartrefi gofal yn Lloegr bedair gwaith yr hyn oedden nhw ar ddechrau’r mis.

Gydag achosion wedi eu darganfod mewn 43 o gartrefi gofal, anfonodd Adran Iechyd Lloegr rybudd at ddarparwyr gofal i dynnu sylw at y broblem ac i alw am iddyn nhw gymryd camau addas i gyfyngu ar nifer yr achosion.

Ar hyn o bryd, gweithwyr yn y cartrefi hyn sy’n dioddef fwyaf, ond dywed llythyr yr Adran Iechyd fod risg “amlwg” i’r feirws ledaenu i’r trigolion hefyd, a bod yn wedi digwydd mewn rhai achosion.

Dywedodd yr Athro Peter Openshaw, aelod o grwp sy’n cynghori’r Llywodraeth ar fygythiad feirysau newydd, fod y perygl yn ddifrifol iawn.

“Mae’r cartrefi gofal hyn yn bocedi agored iawn i niwed,” meddai mewn cyfweliad ar deledu Sky y bore yma. “Nid dim ond y bobl ifanc sy’n cael eu taro, mae’n cychwyn ymddangos mewn pobl fwy bregus ac mae hynny’n anochel yn arwain at yr angen am ofal ysbyty ac at farwolaethau.

“Fe ddylen ni i gyd fod yn meddwl o ddifri am beth allwn ni ei wneud i arafu lledaeniad y feirws.

“Rhaid inni weithredu ar frys oherwydd mae gymaint caletach cael rheolaeth ar y math yma o beth os ydych chi’n oedi.

“Gall hyd yn oed ychydig ddyddiau [o wahaniaeth] fod yn eithaf peryglus ar hyn o bryd.”