Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn buddsodd cyllid ychwanegol o hyd at £1 miliwn mewn undebau credyd.

Bwriad yr arian i Gronfa Benthyciadau Cyfalaf yr Undebau Credyd yw helpu sicrhau benthyciadau teg a fforddiadwy i bobl sydd wedi cael eu taro’n ariannol gan bandemig y coronafeirws.

“Mae undebau credyd yn cynnig ffordd wych i bobl allu cynilo’n rheolaidd a benthyg yn gyfrifol ac mewn modd fforddiadwy,” meddai’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn wrth gyhoeddi’r arian ychwanegol.

“Yn fwy nag erioed, bydd aelodau’n troi at yr undebau credyd y maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw i gael cymorth i’w harwain drwy’r cyfnod ansicr a newydd sydd o’n blaenau.

“Dros y chwe mis diwethaf, er bod rhai wedi gorfod cau eu drysau ar y stryd fawr, mae undebau credyd wedi bod yno i’r rhai sydd angen credyd fforddiadwy. Rwy’n falch bod undebau credyd wedi dechrau ailagor canghennau a chynyddu’r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael wrth i’r cyfyngiadau ddechrau cael eu llacio.

 

“Bydd y cyllid rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn eu cefnogi i barhau i helpu pobl mewn angen.”