Mae dyn 25 oed wedi cael ei gyhuddo yn dilyn digwyddiad treisgar ar Stryd Fawr Bangor nos Wener.

Fe fydd Surcica Panait Mihai, o Ffordd Caergybi yn y ddinas, yn ymddangos gerbron Ynadon Llandudno yfory (dydd Llun 14 Medi) ar gyhuddiadau o anafu bwriadol, ymosod ac o fod ag arf ymosodol yn ei feddiant.

Mae’r heddlu’n dal i apelio am dystion i’r digwyddiad y tu allan i’r siop farbwr Headmasters, ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â CID Bangor ar 101 neu trwy we-sgwrs gan nodi cyfeirnod Y134264.