Mae maes awyr Wuhan, canolbwynt pandemig byd-eang y coronafeirws yn Tsieina, bellach mor brysur ag oedd cyn y pandemig o safbwynt teithiau awyr domestig.

Cafodd y feirws ei ddarganfod yn Wuhan yn hwyr y llynedd a chyflwynwyd cyfnod cloi haearnaidd o 76 diwrnod a chodwyd ysbytai maes i fynd i’r afael â’r haint.

Ers ailagor yn gynnar ym mis Ebrill, mae nifer yr awyrennau a nifer y teithwyr wedi cynyddu’n raddol i’r hyn oedden nhw cynt.

Cafodd 64,700 eu cludo ar 500 o deithiau awyr domestig ddydd Gwener.

Mae’r mes awyr bellach yn paratoi i adfer teithiau awyr rhyngwladol i gyrchfannau fel Seoul, Singapôr, Kuala Lumpur a Jakarta, yn ôl asiantaeth newyddion leol.

Mae bron i fis wedi mynd heibio ers i Tsienia gofnodi achos newydd o’r coronafeirws a gafodd ei drosglwyddo’n lleol yn y wlad.