Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i weld tua 30% o weithwyr Cymru’n gallu gweithio’n rheolaidd o’u cartref yn barhaol ar ôl i’r argyfwng coronafeirws ddod i ben.
Dywed gweinidogion fod yr hyblygrwydd i weithio o bell yn gallu gwella cydbwysedd bywyd a gwaith gweithwyr a chyflogwyr, yn ogystal â’r potensial i hybu adfywio a gweithgarwch economaidd mewn cymunedau.
Maen nhw wedi amlinellu cynlluniau i ddatblygu model cyfunol o weithleoedd, gyda staff yn gweithio naill mewn swyddfeydd, gartref neu mewn canolfannau gweithio o bell mewn cymunedau.
Gallai’r canolfannau hyn, a fyddai o fewn pellter cerdded a beicio o gartrefi, gael eu defnyddio gan y sector cyhoeddus a phreifat, yn ogystal â gwirfoddolwyr a sefydliadau di-elw.
Newid sylfaenol
Dywedodd Lee Waters, y dirprwy weinidog dros yr economi a thrafnidiaeth, na fydd Llywodraeth Cymru’n dilyn cyfarwyddyd Llywodraeth Prydain i annog pawb yn ôl i’w swyddfeydd.
“Credwn y bydd llawer o bobl eisiau parhau i weithio o bell yn yr hirdymor a gallai hyn fod yn newid sylfaenol yn y ffordd rydym yn gweithio yng Nghymru,” meddai.
“Rydym hefyd yn sylweddoli anghenion y rheini nad yw gweithio o’u cartrefi yn ddewis ymarferol iddyn nhw, a byddwn yn edrych ar sut y gellid creu rhwydwaith o ganolfannau gweithio o bell mewn cymunedau.
“Mae gennym gyfle i wneud Cymru’n wlad lle mae gweithio’n fwy hyblyg yn rhan annatod o sut mae’r economi’n gweithredu, gan sefydlu diwylliant gwaith sy’n cefnogi gweithio o bell.
“Ein nod yw gweld tua 30% o weithlu Cymru’n gweithio o bell yn rheolaidd.”
Annog partneriaethau
Y gobaith yw y gellid defnyddio’r canolfannau gweithio o bell i annog partneriaethau newydd rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a diwydiannau.
Dywedodd Hannah Blythyn, y dirprwy weinidog tai a llywodraeth leol, y byddai gweithio o gartrefi’n newid y ffordd y byddai canol trefi a phrif strydoedd yn cael eu defnyddio.
“Ein nod yw gwneud canol trefi’n lleoedd bywiog a pherthnasol unwaith eto a fydd yn hanfodol i’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu,” meddai.
“Fel rhan o’n gwaith i gefnogi ac adfywio ein prif strydoedd a chanol trefi, byddwn yn gofyn i sefydliadau, busnesau ac unigolion i gyfrannu at sicrhau bod mwy o bobl yn byw, gweithio, siopa a dysgu yno.”
Wrth ymateb i gynlluniau’r Llywodraeth, dywedodd Helen Mary Jones, cysgod-ysgrifennydd cysgodol Plaid Cymru, fod y pandemig coronafeirws wedi dangos y gall sefydliadau a gweithwyr elwa ar weithio o gartref.
‘Rhaid i hyn fod yn ddewis’
Ond dywedodd fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru alluogi pobl i wneud hyn yn effeithiol, trwy fuddsoddi mwy mewn band eang a seilwaith cyfathrebu yn gyffredinol.
“Rhaid i hyn fod yn ddewis,” meddai’r aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
“Dyw gweithio o gartref ddim yn ddewis i lawer – boed hynny oherwydd tai cyfyng neu amrywiaeth o resymau eraill.
“Yn yr un modd, gall y swyddfa fod noddfa i lawer o broblemau yn y cartref neu le i wneud ffrindiau newydd.
“Mae’r pandemig yn sicr o newid y ffordd rydym yn gweithio. Bydd angen i’r Llywodraeth Lafur sicrhau bod ein heconomi a’n seilwaith yn barod ar gyfer hynny.”
Gweler erthygl ar oblygiadau posibl gweithio o gartref ar gadarnleoedd Cymraeg.