Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Amgen ddechrau’r mis diwethaf, cyhoeddodd un o bwyllgorau Senedd Cymru y byddai’n ymchwilio i effaith pandemig y coronafeirws ar y Gymraeg.

Ers hynny, mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi bod yn gwahodd sylwadau gan sefydliadau a’r cyhoedd ar gyfer yr ymchwiliad hwnnw, sy’n rhan o ymchwiliad ehangach ar effaith y pandemig ar ddiwylliant a threftadaeth.

Mae’n sicr y bydd digon o sylw’n cael ei roi ar effeithiau andwyol y methiant i gynnal rhai o’n prif ddigwyddiadau diwylliannol, a’r colli cyfleoedd am weithgareddau Cymraeg i bobl ifanc yn enwedig.

Cymharol fychan, fodd bynnag, ydi effeithiau o’r fath o gymharu ag effaith posibl y chwyldro cymdeithasol ac economaidd sy’n digwydd yn sgil y pandemig. Mae wedi golygu y bydd miliynau lawer yn fwy nag erioed o’r blaen o bobl yn gallu gweithio o’u cartrefi, ac na fydd angen iddyn nhw fwy o fewn cyrraedd agos i’w gwaith.

Beth bynnag fydd yn digwydd i’r pandemig, mae’r newid hwn yn debygol o fod yn barhaol, hyd yn oed ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi’n llwyr.

Seisnigo cefn gwlad

Bygythiad amlwg hyn ydi y bydd cannoedd o filoedd o bobl sy’n gweithio yn Lerpwl, Manceinion neu Lundain ar hyn o bryd yn gallu gwneud eu gwaith yr un mor rwydd o gefn gwlad Cymru.

Yn waeth byth, mae cadarnleoedd cryfaf y Gymraeg, gan gynnwys prif ardal graidd yr iaith yn y gogledd-orllewin, yn debygol o fod ymysg y lleoedd mwyaf poblogaidd i fyw ynddynt.

Gan fod cymaint mwy ohonyn nhw nag sydd ohonom ni, a mwy ohonyn nhw’n gyfoethocach na ni, mae’n anochel y bydd gan Saeson o ddinasoedd Lloegr fantais anferthol wrth chwilio am le deniadol i fyw.

Eisoes mae adroddiadau am dai yn cael eu gwerthu o fewn dyddiau i ddieithriaid, a hynny weithiau cyn i bobl leol wybod eu bod ar werth hyd yn oed.

Mae amryw o wleidyddion wedi ymateb i’r sefyllfa drwy ddatgan yr angen am fesurau llym yn erbyn ail gartrefi. Mae hynny’n iawn yn yr ystyr bod ail gartrefi yn felltith mewn llawer i ardal ddeniadol a phoblogaidd.

Mae yna beryglon mawr fodd bynnag i ganolbwyntio’n holl sylw ar ail gartrefi yn unig.

Rhaid fydd inni gydnabod yn blaen y bydd Cymreictod cadarnleoedd olaf y Gymraeg o dan fwy fyth o fygythiad os bydd gormod o Saeson yn symud i fyw’n barhaol ynddynt i weithio o’u cartref. Mae llawer iawn mwy o’r bobl hyn nag sydd o bobl a all fforddio ail gartrefi, a fydd dim modd inni smalio mai rhyw fath o ideoleg gymdeithasol yn erbyn ail gartrefi yw unig sail ein pryderon am yr hyn sy’n digwydd.

Pwnc llosg

Mae’n gwbl ddealladwy os bydd llawer o wleidyddion yn gyndyn o weld y mewnfudo hwn yn dod yn bwnc llosg dros y misoedd nesaf. Ar y llaw arall, cwbl anghyfrifol hefyd fydden nhw i’w anwybyddu. Yn enwedig gan ei fod yn digwydd ar adeg pan fo’r llywodraeth yn Llundain yn ceisio tanseilio datganoli a dyfnhau’r undeb gwleidyddol rhwng Cymru a Lloegr. Does dim byd mwy sicr o gryfhau a dyfnhau’r undeb gwleidyddol hwnnw na thwf mewn undod demograffig.

Pryderon sy’n ymwneud â niferoedd a graddau mewnfudo ydi hyn yn ei hanfod, wrth gwrs, ac nid adlewyrchiad o agweddau at unrhyw unigolion. Does neb ohonom mor grintachlyd â gwrthod cydnabod y gallai llawer o’r newydd-ddyfodiaid hyn fod yn gaffaeliad i’n cymdeithas, ac y gallent fod ag agweddau cadarnhaol at Gymru, gyda rhai ohonynt yn dysgu Cymraeg yn rhugl.

Ar y llaw arall, naïfrwydd anfaddeuol ar ein rhan hefyd fyddai tybio y bydd pawb o’r mewnfudwyr hyn o Loegr yn bobl wylaidd a goleuedig a fydd yn ymhyfrydu yn hanes a diwylliant eu hardal newydd.

Y gwir amdani ydi na all ein hagweddau at y newid demograffig hwn gael ei ddatgysylltu’n llwyr oddi wrth y math o genedlaetholdeb gwrthnysig sy’n cael ei arddel gan y Sefydliad Seisnig y dyddiau hyn. Wrth weld dirmyg Boris Johnson a’i giwed at wledydd eraill Ewrop, sut allwn ni ddisgwyl dim gwell o agweddau ei ddilynwyr tuag at Gymru, lle bynnag fyddan nhw’n byw?

Ymateb i’r her

Mae’n wir nad oes unrhyw bwerau hudol gan Senedd na Llywodraeth Cymru i ddatrys y broblem, a does dim un ateb syml iddi chwaith.

Ar y llaw arall, mae’n ddyletswydd ar seneddwyr i feddwl yn adeiladol sut y gall y Gymraeg addasu i’r chwyldro cymdeithasol ac economaidd hwn sy’n digwydd o’n blaenau.

Mae’r darlun ymhell o fod yn ddu i gyd. Mae’r newid hwn yn cynnwys cyfleoedd yn ogystal â bygythiadau.

Mae am olygu y gall mwy o Gymry nag erioed weithio o’u cartrefi yng nghefn gwlad heb orfod symud i’r dinasoedd. Ac mae hyn yn rhywbeth sy’n rhaid iddo digwydd os ydym am ddiogelu naws Gymraeg ein cadarnleoedd – a dyna lle gall Llywodraeth Cymru weithredu.

I ddechrau, rhaid mynnu pob sefydliad Cymraeg sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd yn rhoi anogaeth a chymorth i’w gweithwyr weithio o’u cartrefi yn y gogledd a’r gorllewin.

Gallai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn haws hefyd i gynghorau lleol hefyd helpu pobl leol i gael blaenoriaeth am dai a’u helpu i gael morgeisi i brynu tai ac iddynt amodau lleol caeth.

Yn bwysicach na dim, mae’n holl bwysig fod y Llywodraeth yn rhoi mwy o gydnabyddiaeth i bwysigrwydd allweddol y cadarnleoedd hyn i barhad y Gymraeg fel iaith naturiol y gymdeithas. Mae ardaloedd o hyd lle mae fwy neu lai bawb o’r boblogaeth frodorol yn siarad yr iaith, a rhaid mynnu bod pob agwedd o waith y Llywodraeth yn cyfrannu at eu hamddiffyn.

Mae nod y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg yn un cwbl glodwiw a diffuant. Does dim pwynt siarad am gyrraedd nod mor uchelgeisiol, fodd bynnag, os bydd y Gymraeg yn colli ei goruchafiaeth yn ei chadarnleoedd cryfaf.

Yn wyneb newid cymdeithasol a all fod mor bellgyrhaeddol, mae’n bwysig fod pwysau’n cael eu rhoi ar y Llywodraeth i ailedrych ar flaenoriaethau ei strategaethau iaith.

Mae modd anfon ymateb i’r ymgynghoriad seneddol drwy’r e-bost yma.