Mae rhieni yn ardal Merthyr wedi cwyno wrth Golwg360 fod eu plant yn cael eu gwasgu ar fws gorlawn wrth gael eu cludo i’r ysgol.

Dywed y rhieni, sy’n gofyn am beidio â datgelu eu henwau, fod plant yn gorfod sefyll ac eistedd ‘yng nghôl ei gilydd’ ar daith o dros hanner awr i ysgol uwchradd Gymraeg Rhydywaun yn Aberdâr.

“Mae’n anhygoel bod hyn yn digwydd pan ydym yn wynebu bygythiad o lockdown arall, ac rydym fel rhieni yn grac iawn,” meddai tad i ferch sydd newydd gychwyn ar Flwyddyn 7 yn yr ysgol.

“Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi ei haddysgu o bwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol, mae’r ysgolion i gyd yn cadw rheolau llym, ac mae’r cyngor yn gwneud hyn i ni.”

Dywedodd ei fod ef a rhieni eraill mewn cyfyng gyngor beth i’w wneud.

“Dw i wedi ystyried ei chadw o’r ysgol, ond fe fyddai’r cyngor wedyn yn bygwth y gyfraith arnom – pan mai nhw sydd mewn gwirionedd yn torri’r gyfraith,” meddai.

Dywedodd rhiant arall, mam i fachgen ym mlwyddyn 8, bod tua 50 o blant ar fws ei mab.

“Roedd rhai yn sefyll ac eraill yn eistedd ar steps, sy’n beryglus ynddo’i hun, heb sôn am y coronafeirws,” meddai. “Mae’n amlwg fod angen dau fws, ac mae’n rhaid i’r cyngor wneud rhywbeth am y peth.”

Ychwanegodd fod criw o rieni wrthi ar hyn o bryd yn trafod ymysg ei gilydd pa gamau i’w cymryd.

Mae Golwg360 wedi gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful am eu hymateb i’r cwynion.