Mae’r dylunydd a sylfaenydd un o siopau celfi amlycaf y stryd fawr, Syr Terence Conran, wedi marw yn 88 oed.

Dechreuodd ar ei yrfa yn gwneud a gwerthu celfi yn Llundain, ac aeth ymlaen i agor tai bwyta cyn lansio’r gadwyn siopau Habitat yn 1964.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu:

“Roedd yn ddyn arloesol a fwynhaodd fywyd a gyrfa hynod. O’r 1940au hyd heddiw, roedd ei ynni a’i greadigrwydd yn ffynnu yn ei siopau, tai bwyta, bariau, caffis a gwestyau, a thrwy ei lawer o fusnesau dylunio, pensaernïaeth a chreu celfi.

“Roedd sefydlu’r Amgueddfa Ddylunio yn Llundain yn un o’r pethau roedd fwyaf balch ohonynt, a thrwy ei ymdrechion daliodd ati i bwysleisio pwysigrwydd addysg i bobl ifanc yn y diwydiannau creadigol.”