Mae gwyddonydd blaenllaw wedi rhybuddio y gall Prydain fod ar fin colli rheolaeth o’r coronafeirws.

Yn ôl Syr Mark Walport, un o gyn-brif ymgynghorwyr gwyddonol y llywodraeth ac aelod o’r grwp Sage sy’n cynghori’r llywodraeth ar argyfyngau, yr unig ffordd o rwystro lledaeniad y feirws yw lleihau’r nifer o bobl rydym yn cysylltu â nhw.

“Mae’n dasg anodd iawn cael y cydbwysedd iawn,” meddai. “Mae’n bwysig iawn cael plant yn ôl i’r ysgol, pobl i’r brifysgol, ond mae’n golygu y bydd yn rhaid inni ddal ein cysylltiadau yn ôl mewn meysydd eraill.

“Lle gall pobl weithio o’u cartrefi mae dadl hynod gref y dylen nhw wneud hynny.”

Daw ei rybudd wrth i nifer yr achosion godi’n sylweddol, gyda chyfanswm o dros 3,000 o achosion newydd yn cael eu cofnodi heddiw am yr ail ddiwrnod yn olynol. Dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd ers canol mis Mai.

Mae’r rhif ‘R’ – cyfradd trosglwyddo’r coronafeirws – hefyd ar i fyny, gydag amcangyfrifon ei fod rhwng 1.0 a 1.2 ar gyfartaledd ledled y Deyrnas Unedig. Y tro diwethaf i’r rhif R fod yn fwy nag un oedd yn gynnar ym mis Mawrth.

Pryder am y penwythnos

Gyda mesurau llymach yn dod i rym yng ngwahanol wledydd Prydain ddydd Llun, mae pryder hefyd y gall pobl fynd dros ben llestri’r penwythnos yma.

“Mae risg gwirioneddol y bydd rhai aelodau o’r cyhoedd yn manteisio ar y sefyllfa bresennol ac yn trin y penwythnos yma fel penwythnos parti cyn i’r cyfyngiadau llymach gael eu cyflwyno ddydd Llun,” meddai John Apter, o Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr.

Pwysodd Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Michael Gove, ar y cyhoedd i fod yn gyfrifol y penwythnos yma.

“Os yw pobl yn ymddwyn mewn ffordd nad yw’n gydnaws â’r canllawiau sydd wedi eu cyhoeddi, yna maen nhw’n rhoi bywydau pobl eraill mewn perygl,” meddai.

“Y rheswm pam fod penaethiaid heddlu’r wlad yn dweud eu bod yn gobeithio y bydd pobl yn ymddwyn yn gyfrifol y penwythnos yma yw nad oes arnon ni eisiau gweld lledaeniad y feirws yn cyflymu ymhellach,” meddai.

“Dw i’n meddwl bod geiriau Syr Mark – sy’n wyddonydd uchel iawn ei barch – yn rhybudd inni i gyd.”