Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi dadlau y gallai’r Undeb Ewropeaidd chwalu’r Deyrnas Unedig os na fydd deddfwriaeth ddadleuol gan y llywodraeth yn cael ei phasio.
Daw hyn ar ôl rhybuddion fod Mesur y Farchnad Fewnol, a fydd yn cael ei drafod yn y Senedd ddydd Llun, yn torri cyfraith ryngwladol. Mae hyn oherwyedd ei fod yn newid cytundeb ymadael a oedd eisoes wedi cael ei gytuno gyda’r Undeb Ewropeaidd y llynedd.
Mae Iwerddon a’r Undeb Ewropeaidd eisoes wedi rhybuddio bod Mesur Boris Johnson yn peri risg difrifol i’r broses heddwch.
Er gwaethaf hyn, mae Boris Johnson yn dadlau bod y Mesur yn angenrheidiol gan y gallai’r Undeb Ewropeaidd ‘fygwth cyfanrwydd yr Undeb’. Mae’n honni bod ‘Brwsel’ yn bygwth rhoi ‘blocâd’ ym Môr Iwerddon a allai ‘beryglu heddwch a sefydlogrwydd yng Ngogledd Iwerddon’.
“Byddai’r Undeb Ewropeaidd yn defnyddio dehongliad eithafol o Brotocol Gogledd Iwerddon i orfodi ffin fasnach lawn i lawr Môr Iwerddon a allai rwystro cludo bwyd o Brydain i Ogledd Iwerddon,” meddai mewn erthygl yn y Daily Telegraph.
“Gadewch inni gael gwared ar y perygl hwn i wead y Deyrnas Unedig. Gadewch inni wneud i’r Undeb Ewropeaidd dynnu eu bygythiadau yn ôl. A gadewch inni gael y Mesur yma drwodd, ac amddiffyn ein gwlad.”
Mewn cyfarfod ar-lein neithiwr, fe fu’n apelio ar Aelodau Seneddol Torïaidd i beidio â gwrthryfela yn erbyn y mesur.