Er bod canolfan dros dro ar gyfer profion Covid-19 wedi agor yn y Rhondda heddiw ac yfory (12-13 Medi), mae’n ymddangos mai dim ond 60 o brofion y dydd fydd ar gael yno.
Mewn neges ar Trydar neithiwr, dywedodd arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, ei fod yn ‘bloody furious’ tuag at lywodraeth Prydain am y cyfyngiadau.
“Mae’r system brofi orau yn y byd mae Boris yn ei chanmol yn methu’n ddrwg,” meddai. “Mae torri’r niferoedd mewn safleoedd ledled Prydain yn wallgofrwydd, ac mae pobl yn Rhondda Cynon Taf eisoes yn methu â chael apwyntiadau.”
Roedd sicrhau canolfan brofi yn y Rhondda wedi golygu ymdrech enfawr gan y Cyngor, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, meddai. Roedd hyn ar ôl cynnydd sylweddol mewn achosion yn yr ardal.
Mewn adroddiad ar wefan Walesonline, dywedodd Andrew Morgan fod y ganolfan ei hun, yn y Pafiliwn, Cwm Clydach, yn gallu gwneud 400 i 500 o brofion y diwrnod, ond nad ydyn nhw’n cael gwneud mwy na 60 am nad oes digon o labordai ar gael i brosesu’r canlyniadau.
“Mae’n ffars llwyr,” meddai. “Dw i’n credu bod y system yn agos at ddymchwel.”
Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y ganolfan brofi dros dro ar gyfer pobl Rhondda Cynon Taf yn unig, ac na ddylai neb geisio apwyntiad oni bai fod ganddyn nhw symptomau Covid-19 – peswch newydd parhaus, tymheredd uchel neu newid i’w synnwyr blasu ac arogli arferol.