Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi croesawu llwyddiant eu cyrch mwyaf erioed yn erbyn gang o werthwyr cyffuriau.

Cafodd 18 o aelodau blaenllaw gang yr Echo Line ddedfrydau o garchar a oedd yn amrywio rhwng 4 blynedd a hanner a 21 mlynedd yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddoe.

Cafodd yr Echo Line ei ddisgrifio yn y llys fel gang “hynod o brysur a phroffidiol iawn” a fu’n cyflenwi cocên a heroin yng ngogledd Cymru, Glannau Mersi, gogledd-orllewin Lloegr a chyn belled â’r Alban a Dyfnaint a Chernyw.

“Mae lefel y dedfrydau’n adlewyrchu difrifoldeb y troseddau hyn,” meddai’r Ditectif Arolygydd Lee Boycott o Uned Troseddau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru.

“Roedd y gang hon yn benderfynol o beidio â gadael i neb sefyll yn ffordd eu busnes llewyrchus a ddaeth â dioddefaint i filoedd a thrais i’n strydoedd.”

Yn ystod yr ymchwiliad, llwyddodd yr heddlu i gipio cyffuriau a oedd yn werth £2.1 miliwn ar y stryd, a oedd yn cynnwys dros 5 cilogram o heroin, cocên a crac cocên.

Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Boycott y byddan nhw’n dod â gorchmynion llys yn erbyn y troseddwyr i gael gafael ar eu harian a’u hasedau.