Bydd y diwydiant amaeth yng Nghymru yn dioddef os na fydd y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn taro cytundeb masnach.
Dyna yw rhybudd Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC), wrth i Brexit ddychwelyd unwaith eto i’r penawdau.
Ddydd Mercher mi gyhoeddodd Llywodraeth San Steffan fil drafft a fyddai’n addasu eu ‘Cytundeb Ymadael’ ag Ewrop, ac mae hynny wedi gwylltio gwleidyddion ar y cyfandir.
Byddai’r ‘Bil Marchnad Fewnol’ – fel mae hi – yn sathru ar y cytundeb gan dorri cyfraith ryngwladol, ac mae Ewrop wedi dweud bod hyn yn “peryglu” y trafodaethau tros daro dêl masnach.
Yn siarad heddiw mae Glyn Roberts wedi pwysleisio pwysigrwydd taro dêl i ffermwyr Cymru.
“Rhaid i’n perthynas masnach ag Ewrop barhau, ac os gollwn ni hynny bydd y goblygiadau i’n diwydiant yn negyddol iawn,” meddai.