Mae pandemig y coronaferiws wedi costio £39 miliwn i Gyngor Caerdydd ym mhedwar mis cyntaf y flwyddyn ariannol.

Caiff y costau eu datgelu mewn adroddiad i Gabinet y Cyngor a fydd hefyd yn clywed amcangyfrifon ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf.

Mae’n bosib y bydd rhaid i’r Cyngor ddod o hyd i ffyrdd o bontio bwlch o £25.5 miliwn yn y gyllideb yn 2021/22.

Hyd yma, mae’r Cyngor wedi gwario £26 miliwn ar wasanaethau sy’n mynd i’r afael ag effaith y feirws ac mae £13 miliwn ychwanegol yn incwm a gollwyd.

Mae dadansoddiad o’r amcan gost £26 miliwn i’r Cyngor wrth ymateb i’r pandemig yn cynnwys costau fel:

  • £6.3 miliwn ar ofal cymdeithasol i oedolion.
  • £5.2 miliwn ar gyfarpar diogelu personol.
  • £3.3 miliwn ar roi prydau ysgol am ddim i tua 12,000 o ddisgyblion bob dydd.
  • £1.9 miliwn ar dai i gynorthwyo’r digartref yn ystod y pandemig.
  • £1.6 miliwn ar wasanaethau profedigaeth.

Mae’r Cyngor hefyd wedi datgelu bod £13 miliwn o incwm wedi’i golli yn ystod yr un cyfnod oherwydd y pandemig.

Mae hyn yn cynnwys y canlynol, ymhlith eraill:

  • Colled o £3.5 miliwn mewn ffioedd parcio, cosbau parcio a Throseddau Traffig sy’n Symud.
  • Colled o £2.7 miliwn yn y gwasanaethau diwylliannol.
  • Colled o £1.75 miliwn o incwm arlwyo ysgolion.

Cais am arian gan y Llywodraeth

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, sef yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: “Fel y mae hi, hyd yn hyn rydym wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru ein had-dalu am tua £21.4 miliwn o wariant, sef yr hyn a warion ni hyd at ddiwedd mis Mehefin, ac mae wedi cytuno i roi £19.6 miliwn i ni.

“Byddwn yn gwneud cais am arian ar gyfer yr holl wariannau eraill a’r incwm a gollwyd hefyd wrth i ni geisio taclo’r feirws a gwneud popeth y gallwn i gadw pobl yn ddiogel ac i arbed swyddi.

“Os nad yw Llywodraeth Cymru yn parhau i helpu, rydym yn amcangyfrif y gallwn golli gwerth £34 miliwn o wariant a cholli incwm erbyn diwedd y flwyddyn.

“Mae’n hanfodol ei bod yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol gyda’r arian a all eu helpu i oroesi’r argyfwng hwn.”