Mae ofnau fod nifer mawr o bobl wedi cael eu lladd mewn tanau anferthol yn nhalaith Oregon yn America.

Wrth i gannoedd o ddiffoddwyr ymladd y tanau gwyllt, mae 40,000 o bobl wedi gorfod ffoi o’u cartrefi a miloedd o adeiladau wedi cael eu dinistrio.

Mae dwsinau o bobl yn dal ar goll wrth i ddau dân gwyllt nesáu at ei gilydd ar gyrion Salem, prifddinas y dalaith orllewinol sydd i’r gogledd o California.

Y pryder yw os daw y ddau dân at ei gilydd y byddan nhw’n creu cymaint o wres fel y bydd yn lledaenu’n gyflymach fyth.

Mae’r nifer uchaf o danau gwyllt dros yr ychydig ddyddiau diwethaf wedi eu hachosi gan amodau sych, tymheredd uchel, a gwyntoedd anghyffredin o gryf.

Dywed llywodraethwr y dalaith, Kate Brown, fod y 1,400 o erwau o dir sydd wedi llosgi yn ystod y dyddiau diwethaf bron ddwywaith y tir sy’n llosgi mewn blwyddyn arferol yno.