Mae Llywodraeth Prydain wedi taro eu bargen ôl-Brexit mawr cyntaf gyda chytundeb fydd yn creu £15 biliwn o fasnach newydd gyda Japan, medden nhw.
Dywedodd Liz Truss, Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol Llywodraeth Prydain, fod nawr yn “amser hanesyddol” i’r ddwy wlad wrth i’r cytundeb olygu “enillion newydd” i fusnesau yn niwydiannau lletygarwch, technoleg a chynhyrchu gwledydd Prydain.
Cytunodd Liz Truss a Motegi Toshimitsu, Gweinidog Tramor Japan, ar Gytundeb Partneriaethol Economaidd Cynhwysfawr DU-Japan, fore heddiw (11 Medi) dros alwad fideo.
Dechreuodd y trafodaethau ym mis Mehefin, gyda’r rhan fwyaf yn digwydd dros y we yn sgil y pandemig.
Mae’n debyg y bydd drafft terfynol y cytundeb yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref.
Manylion y cytundeb
Dywedodd Llywodraeth Prydain fod buddion y cytundeb yn mynd ymhellach na rhai cytundeb masnach yr Undeb Ewropeaidd a Japan, gan roi mantais gystadleuol i fusnesau Prydeinig wrth allforio i Japan.
Mae disgwyl i’r cytundeb greu cynnydd o £15.2 biliwn i’r fasnach â Japan.
Gyda’r cytundeb, bydd 99% o’r allforion i Japan yn ddi-dariff, a bydd mwy o warchodaeth i nwyddau sydd yn gysylltiedig ag ardal ddaearyddol benodol – gan gynnwys oen Cymreig, a chaws Wensleydale.
Golyga’r cytundeb fod toriadau i dariffs allforio porc, cig eidion ac eog Prydeinig i’r wlad.
Hefyd bydd cwmnïau Prydeinig a Siapaneaidd yn gallu symud gweithwyr o un wlad i’r llall yn haws o dan y cytundeb.
“Amser hanesyddol”
Fe wnaeth Boris Johnson longyfarch Liz Truss a’r trafodwyr am sicrhau’r cytundeb, gan drydar: “Rydym wedi adennill rheolaeth o’n polisi masnachu a byddwn yn parhau i lwyddo fel cenedl fasnachol tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.”
Dywedodd Liz Truss fod hwn yn “amser hanesyddol i wledydd Prydain wrth i ni sicrhau ein cytundeb masnachol mawr ôl-Brexit cyntaf.
“Mae’r cytundeb – a ddaethom iddo dan amgylchiadau anodd ac mewn amser sydyn – yn mynd ymhell tu hwnt i’r cytundeb sydd gennym â’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd.
“O’r cynhyrchwyr moduron yng Nghymru i’r cryddion yng ngogledd Lloegr, bydd y cytundeb yn ein cynorthwyo i ail-adeiladu ein hunan yn gryfach gan greu cyfleoedd newydd i bobol ar hyd a lled Prydain.
“Yn dactegol, mae’r cytundeb yn gam ymlaen pwysig er mwyn ymuno â’r Bartneriaeth Trans-Basiffig a gosod gwledydd Prydain yng nghanol rhwydwaith o gytundebau modern masnachol rhydd rhwng ffrindiau a chynghreiriaid.”
Cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd yn parhau i fod yn “hanfodol”
Daw’r cytundeb tra bod gobeithion am gytundeb masnachol rhwng gwledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd yn y fantol, wedi i’r Undeb Ewropeaidd fynnu bod Llywodraeth Prydain yn troi eu cefn ar eu cynlluniau i anwybyddu rhannau o’r Cytundeb Ymadael.
Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Cynhyrchu a Masnachu Moduron, Mike Hawes, fod y cytundeb yn debyg o “gynorthwyo i wella masnach a buddsoddi modurol rhwng y ddwy wlad.”
Er hynny roedd yn “gobeithio byddai cytundeb yn cael ei wneud rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Llywodraeth Prydain ar frys er mwyn i’r ddwy ochr elwa yn llawn – mae amser yn mynd yn drech â ni.”