Mae Cyngor Ceredigion wedi cyhoeddi bod ymweliadau â chartrefi gofal wedi cael eu hatal dros dro yn y sir.

Daw’r cam wedi i achosion positif covid-19 gael eu cadarnhau ymhlith staff mewn dau gartref gofal annibynnol yn ardal Aberystwyth.

Ar hyn o bryd, does dim un preswylydd wedi profi’n bositif ond yn ôl y Cyngor byddan nhw’n parhau i gael eu monitro’n agos.

“Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cymryd y cam hwn er mwyn diogelu iechyd, diogelwch a lles ein holl breswylwyr, staff a’r cyhoedd mewn amseroedd digynsail sy’n newid yn barhaus,” meddai datganiad.

“Mae gofalu am breswylwyr ein cartrefi gofal o’r pwys mwyaf i ni, felly bydd ymweliadau’n cael eu hatal dros dro.”

Mae trigolion yn rhai rhannau o’r Cymoedd eisoes yn cael eu cynghori i beidio ymweld â chartrefi gofal yn sgil naid mewn achosion yno.