Cymro o Bowys sydd wedi creu rhaglen ddogfen newydd am y llofrudd adnabyddus Dennis Nilsen, a fydd yn cael ei darlledu drwy Brydain ar ITV nos Iau nesaf (Medi 17).
Bydd y rhaglen ddogfen yn cael ei dangos ar gynffon drama fawr newydd am y llofrudd o’r Alban fu’n troseddu rhwng 1978 a 1983.
David Tennant, yr Albanwr oedd yn arfer actio Dr Who, sy’n portreadu Dennis Nilsen yn y ddrama Des, sydd ymlaen ar nosweithiau Llun, Mawrth a Mercher yr wythnos nesaf ar ITV.
Llofruddiodd Dennis Nilsen 15 o ddynion ifanc yn ei gartref yn Llundain, gan gael gwared â’u cyrff mewn ffyrdd erchyll.
Pan gafodd ei ddal, roedd yn awyddus dros ben i siarad a brolio am ei droseddau.
Bydd y rhaglen ddogfen amdano yn cynnwys cyfweliad rhyfeddol wnaeth Dennis Nilsen yng Ngharchar Albany yn 1992.
Un drwg
Yn wreiddiol o Ddolanog ym Mhowys, mae Iwan Roberts wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ac wedi gweithio ar Hacio ac Y Byd ar Bedwar cyn mynd yn ei flaen i gynhyrchu rhaglenni i ITV.
A’r un ddiweddara’ ganddo yw The Real ‘Des’: The Dennis Nilsen Story.
“Yn y bôn roedd yn fwystfil, roedd yn obsessed efo’i ddelwedd ac yn narcassist llwyr,” meddai Iwan Roberts wrth drafod Dennis Nilsen gyda golwg360.
“Fel unrhyw stori, mae’n rhaid ymchwilio gymaint â phosib, mae yno ddigon o lyfrau da ar gael, yna mynd ati i siarad gyda phobol oedd yn ymwneud â’r achos… felly plismyn, cyfreithwyr a theuluoedd y bobol gafodd eu llofruddio.
“Mae’n broses anodd gorfod penderfynu beth sydd am gael ei gynnwys mewn rhaglen 47 munud oherwydd mae’n eang iawn ac mae rhaid pwyso a mesur beth sy’n fwy diddorol, a chwynnu lawr i ryw awr a hanner ac wedyn chwynnu fwy byth.
“Mae’n anodd dweud sut ymateb fydd y rhaglen ddogfen yn ei chael, ond dw i’n gobeithio y bydd pobl yn dysgu ohoni.
“Dw i eisiau i bobol gael rhywbeth allan ohono ar y diwedd.”