Bydd y rhaglen bypedau dychanol Spitting Image yn dychwelyd gyda chant a mwy o gymeriadau – gan gynnwys Charles a Camilla ar eu newydd gwedd, Michael Gove a Dominic Raab – a Boris Johnson fel babi.
Roedd Spitting Image yn arfer denu 15 miliwn o wylwyr yn yr 80au a’r 90au pan gafodd ei darlledu am y tro cyntaf.
Ar ôl seibiant o 24 blynedd, bydd y gyfres newydd yn dychwelyd ar BritBox am ddeg wythnos ar y 3ydd o Hydref.
“Amser dod oddi ar ffyrlo!”
Mae cyd-gynhyrchydd Spitting Image, Roger Law, yn ei ôl ar gyfer y gyfres newydd.
Dywedodd: “Mae popeth mae’r cynhyrchwyr wedi eu creu ar gyfer rhaglenni Spitting Image – y cartwnau, y pypedau a’r dychan – o fewn budd y cyhoedd, fel dyweda Boris Johnson: ‘Pro bono publico.
“Mae’n amser dod oddi ar y ffyrlo!”
“Mae’r bobol wedi rhoi eu barn, ac mae’r pypedau ‘allan o’r popty.’
“Rydym am gymryd rheolaeth yn ôl gan Boris, Cummings, Trump, Kim Kardashian, Kanye West a’u tebyg.”
Cyflwyno’r pypedau newydd
Roedd y cyfresi yn arfer portreadu Margaret Thatcher mewn siwt dyn ac yn trin ei llywodraeth â dirmyg, ac Elizabeth Bowes-Lyon, mam Elizabeth II, yn yfed o botel gin.
Ymhlith y pypedau newydd fydd Michael Gove, gyda bochau tewion, a’r Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab yn gwneud karate.
Mae’r cynhyrchwyr wedi datgelu lluniau o Boris Johnson, ei brif gynghorydd Dominic Cummings, a’r Tywysog Andrew yn barod.
Bydd Adele, Barack Obama, Donald Trump, Greta Thunberg, Harry Styles, Ed Sheeran, Gwyneth Paltrow, a hyd yn oed “Covid-19” yn ymddangos ar ffurf pypedau yn y gyfres newydd.
Dywedodd cynhyrchwyr y bydd y sioeau yn cael eu hysgrifennu, a’r pypedau yn cael eu creu mor agos i amser dangos y rhaglen â phosib.
Bydd Jeff Westbrook, sydd wedi ysgrifennu The Simpsons, yn rhan o’r tîm o awduron y tro hyn.