Dylai rhagor o weisg Cymraeg gyhoeddi barddoniaeth ar ffurf pamffledi – sef llyfrynnau o gerddi.

Dyma farn Dafydd Pritchard, bardd a beirniad is-gategori ieithoedd Celtaidd y ‘Michael Marks Award for Poetry Pamphlets 2020’. Dyma’r ail flwyddyn iddo gael y fraint o feirniadu.

Mae’r wobr yn cael ei rhoi i bamffled arbennig o gerddi sydd wedi cael ei chyhoeddi yn y flwyddyn flaenorol ac wedi’i sgrifennu yn y Gymraeg, Gaeleg yr Alban, y Wyddeleg, Cernyweg neu Fanaweg.