Mae cynrychiolydd undeb y postmyn yn y gogledd yn gobeithio bydd trafodaethau  munud olaf gyda’r Post Brenhinol yn llwyddo, fel nad oes angen cynnal pleidlais arall dros fynd ar streic.

Ar Fawrth 17 eleni wnaeth 95% o’r postmyn sy’n perthyn i undeb y CWU [Communication Workers Union] bleidleisio o blaid cerdded allan.

Ond mae Deddf Undebau Llafur 2016 yn dweud os nad oes streic wedi cymryd lle o fewn chwe mis i ddyddiad y bleidlais, yna mae’n rhaid cynnal un newydd.