Mae lle i gredu ein bod ni bellach ar drothwy ail don y coronafeirws, yn ôl Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru.

Ddechrau’r wythnos fe ddaeth i’r amlwg bod 86% o feddygon Lloegr yn disgwyl ail naid mewn achosion o fewn y chwech mis nesa’ – daw’r ffigyrau o arolwg Cymdeithas Feddygol Prydain.

Ac wrth i reolau newydd ddod i rym yng Nghymru ddydd Llun, daeth rhybudd gan ddoctor o Ysbyty Brenhinol Gwent bod y sefyllfa eisoes yn “poethi” yn y wlad hon.