Tymor newydd, normal newydd – ond a yw hi’n bryd am faes llafur Cymraeg newydd?
Ar ôl dod i arfer â threfn wahanol yn y dosbarth a’r arwyddion ym mhob twll a chornel yn eu siarsio i gadw pellter a golchi eu dwylo, fe fydd disgyblion sy’n bwriadu astudio TGAU a Safon Uwch Cymraeg yn gorfod ymbalfalu â rhai o weithiau llenyddol mawr (ac nid mor fawr) yr iaith.
Fe fydd rhai o’r gweithiau gosod sydd ar faes llafur cyfredol y Cydbwyllgor Addysg yn gyfarwydd i rai sydd wedi gadael yr ysgol ers degawdau, fel cerdd serch enwog Dafydd ap Gwilym, ‘Yr Wylan’. Mae gweithiau eraill yn newydd-ddyfodiaid, fel nofel boblogaidd Manon Steffan Ros, Llyfr Glas Nebo a cherdd gaeth Rhys Iorwerth i ferch wrth y bar yng Nghlwb Ifor Bach.
Pe baech chi’n gyfrifol am y maes llafur, beth fyddech chi’n gofyn i fyfyrwyr Cymraeg ei ddarllen a’i werthfawrogi? Dyna y bu Golwg yn ei ofyn i docyn o bobol lengar – rhai sydd wedi gadael ysgol a’r byd addysg ers degawdau, eraill yn dechrau ar eu gyrfa ym myd llyfrau Cymraeg, ac efallai yn breuddwydio y bydd disgyblion Cymraeg y dyfodol yn astudio rhywfaint ar eu gweithiau nhwythau ryw ddiwrnod…
Angharad Tomos, nofelydd, darlunydd, a ‘mam’ Rala Rwdins
Unrhyw beth cyfoes, a gweithiau sydd heb eu sgwennu eto. Pan ro’n i yn astudio Lefel O ac A, roedd gweithiau Kate Roberts, T H Parry-Williams ac ati (er cystal oedden nhw) yn ymddangos yn gwbl amherthnasol. Doedd gennym ni fawr o amynedd efo byd yn llawn tlodi a chwareli ac athronyddu am farwolaeth. Roedden ni yn llawn bywyd, ac roedd bob chwarel wedi cau. Amherthnasedd y cyfan ddaru ein diflasu ni – heb sôn am astudio llyfrau a cherddi (yr un rhai) hyd syrffed. Mae hyn yn dal i ddigwydd, ac mae sawl un yn gwrthod agor clawr llyfr wedi’r fath brofiad.
Dw i wedi dod i’r casgliad fod astudio deunydd yn y fath fanylder yn wastraff amser. Yr hyn sydd angen ei wneud yw cyflwyno pytiau o lyfrau a barddoniaeth mewn arddulliau gwahanol, fel bod pobl ifanc yn cael gweld y rhychwant yr arddulliau sydd yna. Yna, astudiwch weithiau cyfoes, gwrandwch ar Dalwrn y Beirdd yn gyson a chynnyrch Stompiau – cynnal stomp yn y dosbarth. Bob blwyddyn, dilynwch ddeunydd newydd gaiff ei gyhoeddi, a’r cynnyrch sy’n fuddugol yn y Steddfod. Gadewch i’r athro/athrawes ddewis ei hoff lyfr os oes rhaid astudio un yn fanwl, a bydd ei brwdfrydedd yn tanio’r ieuenctid.
I chwarae’r gêm, mi wna i nodi O! Tyn y Gorchudd, Angharad Price; gweithiau Aled Jones Williams; Seren Wen ar Gefndir Gwyn Robin Llywelyn; ac unrhyw un o lyfrau Sian Northey. Yn gerdd – cerdd ddiweddar Mererid Hopwood i Epynt.
O ran dramâu, bûm yn ffodus yn [Ysgol] Dyffryn Nantlle gan inni gael taith fisol i Theatr Gwynedd, ac roedd Bara Caws yn llwyfannu pethau yn gyson. Hefyd roedd drama flynyddol yn yr ysgol lle’r oedd John Gwilym Jones yn dod i gynhyrchu gweithiau. Rhowch gyfle i bobl ifanc actio – ewch â nhw i weld Cwmni Tebot a chwmnïau ifanc sy’n mentro.
Ac un pwt i orffen – mae eisiau dileu arholiadau. Os llwyddwyd i wneud hebddynt yn 2020, does mo’i hangen yr un flwyddyn arall. Magu diddordeb ysol mewn llenyddiaeth yw priod waith yr ysgol, ac nid drwy faes llafur ac arholi mae gwneud hynny.
Elidir Jones, awdur llyfrau i oedolion ifanc a sgriptiwr
Mae dwy nofel wedi dod i’r meddwl. Un ydi Y Tri Llais gan Emyr Humphreys. Nofel fer, syml, ddarllenadwy, am blentyndod ac ieuenctid, ond un sydd â llwyth o haenau o ystyr ac alegori yn cuddio o dan yr wyneb, ac yn cynnig cyflwyniad da i hanes a gwleidyddiaeth Cymru yng nghanol yr 20fed ganrif. Dw i wedi ei darllen sawl gwaith, a rhyw ystyr newydd yn dod i’r golwg bob tro.
Un arall ydi Y Dydd Olaf gan Owain Owain. Dw i’n meddwl mai un o bwrpasau cyrsiau llenyddiaeth ydi cael pobol ifanc i ddarllen er pleser. Gan eu bod nhw’n fwy tebyg o ddarllen ffuglen wyddonol, ffantasi neu arswyd yn eu hamser sbâr, mae’n gwneud synnwyr cynnwys rhywbeth felly yn y cwrs.
Eto, mae’n nofel fer, gweddol hawdd ei deall, ac fe fyddai disgyblion ysgol yn medru ei chymharu â llyfrau, ffilmiau, neu gyfresi poblogaidd (The Terminator, Blade Runner, neu Westworld, er enghraifft), a gofyn i’w hunain pam bod ffigwr cyfoes fel Gwenno Saunders wedi teimlo’r angen i gyfansoddi cerddoriaeth yn seiliedig arni.
Elan Grug Muse, golygydd a bardd
Dwy gerdd: ‘Y Traddodiad Barddol’ gan Angharad Price, yn Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes (2005) a ‘Pwy oedd chwiorydd Heledd?’ gan Elin ap Hywel, yn Dal i Fod (2020).
All yr un maes llafur fod yn berffaith, ac mae’r ddwy gerdd yma yn ein herio ni yn benodol i ystyried be arall sydd ddim ar y maes llafur; pwy sydd ddim yn y ‘canon’ neu’n cael eu clodfori fel rhan o’r ‘traddodiad’, ac i holi pam hynny.
Rheinallt Llwyd, cyn-lyfrgellydd, hanesydd, a golygydd
Yn sicr, fe ddylai nofel ryfeddol Gwynn ap Gwilym, Sgythia, fod ar restr testunau gosod Lefel A. Mae’n un o glasuron rhyddiaith ddiweddar Cymru a gwnaed cam dybryd â’r nofel trwy wrthod ei rhoi ar restr Llyfr y Flwyddyn.
Dw i’n credu y dylai rhai o weithiau Aled Jones Williams gael eu hastudio hefyd gan ei fod yntau’n llenor athrylithgar iawn. Dyna ei nofelau Yn Hon Bu Afon Unwaith ac Eneidiau a’i ddramâu – Iesu, er enghraifft.
O ran barddoniaeth, dw i’n synnu nad oes dim o waith Gwyneth Lewis i’w weld yn y rhestrau. Ac o blith y beirdd mwy traddodiadol mae’n drist gweld fod I D Hooson wedi ei anghofio’n llwyr. Roedd ganddo ef rai cerddi arhosol werthfawr a pherthnasol i bob oes a chyfnod.
Mared Llywelyn, dramodydd
Nofel sydd yn dal i fy nghyfareddu gyda phob darlleniad yw Bitsh! gan Eirug Wyn. Nofel dod-i-oed a fyddai’n siŵr o gyffroi darllenwyr ifanc. Mae ynddi themâu dyrys megis cenedlaetholdeb, rhyw, rhywedd ac iechyd meddwl, ond ei fod yn darllen yn dwyllodrus o rwydd.
Byddai Saith Oes Efa gan Lleucu Roberts yn gyfrol arbennig i gael ar y maes llafur. ‘Saith oes’ wahanol i saith menyw wahanol. Mae’r straeon yn amrywio cymaint â chefndiroedd y cymeriadau a hyd yn oed eu tafodiaith.
Os oes lle i ddau gywydd gan Dafydd ap Gwilym yn Adran ‘Yr Hengerdd a’r Cywyddau’, yna siawns bod lle i un gan Gwerful Mechain, yr unig waith gan ferch sydd wedi goroesi o gyfnod Beirdd yr Uchelwyr. Dathlu cyrff merched mae Gwerful Mechain gan godi dau fys ar gasanovas megis Dafydd ap Gwilym. Mae Gwerful yn sôn am yr union bethau mae ein beirdd benywaidd, ifanc ni yn canu amdanynt heddiw. U go girls. Rhywbeth i gadw mewn cof wrth edrych ar restr beirdd barddoniaeth TGAU.
***
Llyfrau gosod maes llafur – Cymraeg
TGAU
Barddoniaeth
- ‘Rhaid peidio dawnsio’ – Emyr Lewis
- ‘Y ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor’ – Rhys Iorwerth
- ‘Gweld y Gorwel’ – Aneirin Karadog
- ‘Y Sbectol Hud’ – Mererid Hopwood
- ‘Tai Unnos’ – Iwan Llwyd
- ‘Walkers Wood’ – Myrddin ap Dafydd
Haen uwch
- ‘Ofn’ – Hywel Griffiths
- ‘Eifionydd’ – R Williams Parry
- ‘Y Coed’ – Gwenallt
- ‘Etifeddiaeth’ – Gerallt Lloyd Owen
Rhyddiaith
Haen Sylfaenol
- Naill ai: Llinyn Trôns, Bethan Gwanas
- Neu: Bachgen yn y Môr, Morris Gleitzman Addasiad Elin Meek
- Neu: Diffodd y Sêr, Haf Llewelyn
Haen Uwch
- Naill ai: Dim, Dafydd Chilton
- Neu Yn y Gwaed, Geraint Vaughan Jones
- Neu O Ran, Mererid Hopwood
Nofelau sy’n addas ar gyfer yr holl ystod gallu
• Naill ai: Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr, Alun Jones
• Neu: I Ble’r Aeth Haul y Bore? Eirug Wyn
• Neu: Llyfr Glas Nebo, Manon Steffan Ros
Safon UG a Safon Uwch Cymraeg (Iaith Gyntaf)
Barddoniaeth yr 20fed Ganrif a’r 21ain Ganrif
- ‘Moelni’ – T H Parry-Williams
- ‘Y Meirwon’ – Gwenallt
- ‘Preseli’ – Waldo Williams
- ‘Yma y mae fy lle’ – Gwyn Thomas
- ‘Y Gŵr sydd ar y Gorwel’ – Gerallt Lloyd Owen
- ‘Y Genhedlaeth Goll’ – Alan Llwyd
- ‘Sul y Mamau yn Greenham’ – Menna Elfyn
- ‘Aneirin’ – Iwan Llwyd
- ‘Gwenllian’ – Myrddin ap Dafydd
- ‘Cân y Milwr’ – Karen Owen
- ‘DIY’ – Grahame Davies
- ‘Beaufort, Blaenau Gwent, mewn gwyrdd’ – Ifor ap Glyn
Y Nofel
- Naill ai Un Nos Ola Leuad: Caradog Prichard, neu
- Dan Gadarn Goncrit: Mihangel Morgan, neu
- Martha, Jac a Sianco: Caryl Lewis, neu
- Blasu: Manon Steffan Ros
Trafod drama
- Naill ai Siwan: Saunders Lewis, neu
- Y Tŵr: Gwenlyn Parry
Rhyddiaith yr Oesoedd Canol
- Branwen Ferch Llŷr
Yr Hengerdd a’r Cywyddau
- Awdlau I ac XXIV o’r Gododdin: Aneirin
- Gwaith Argoed Llwyfain: Talieisin
- Marwnad Owain ab Urien: Talieisin
- Mis Mai a Mis Tachwedd: Dafydd ap Gwilym
- Yr Wylan: Dafydd ap Gwilym
- Trafferth mewn Tafarn: Dafydd ap Gwilym